Gobeithio defnyddio chwedl Madog i hybu twristiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp busnes o'r gogledd yn gobeithio elwa ar hen chwedl er mwyn hybu twristiaeth o Ogledd America.
Yn ôl chwedl y Tywysog Madog o'r 12fed ganrif, hwyliodd y tywysog o Landrillo-yn-Rhos ger Bae Colwyn yn 1170 gan lanio ym Mae Mobile yn Alabama - a hynny dair canrif cyn i Christopher Columbus groesi'r Iwerydd.
Dywedodd cwmni Colwyn BID y dylai gogledd Cymru ddilyn esiampl Gwlad yr Iâ - sydd wedi elwa o chwedl y Llychlynnwr Lief Erikson, y dyn maen nhw'n dweud wnaeth ddarganfod Gogledd America yn y 10fed ganrif.
Dywedodd Anna Openshaw o Colwyn BID fod angen elwa ar y chwedl yn fwy na sydd ar hyn o bryd.
"Mae yna gyfle i ddenu ymwelwyr o America, gwlad lle mae yna gysylltiad gyda stori Tywysog Madog, a bydd hyn o fudd i fusnesau yma," meddai.
Pwy oedd gyntaf?
Draw yn yr Unol Daleithiau, mae yna Gymdeithas Madog wedi ei sefydlu yn nhref Mobile.
Yn 2008 aed ati i adnewyddu plac gafodd ei osod yn 1953 sy'n cofnodi'r fan lle honnir fod y tywysog wedi glanio yn 1170.
Dywedodd Roger Parry, un o gynghorwyr Conwy, ei fod o'r farn fod stori Madog yn gredadwy: "Rwy'n meddwl bod hi'n bosib fod Madog wedi hwylio i America, a byddwn yn hoffi gweld y stori yn cael ei hyrwyddo ymhellach."
Un arall sy'n credu bod y stori yn bosib yw hanesydd lleol Graham Roberts: "Rydym yn gwybod oherwydd eitemau sydd wedi eu darganfod fod y Llychlynwyr wedi cyrraedd ynys Newfoundland yng Nghanada.
"Mae bron yn bendant eu bod nhw wedi cyrraedd y fan honno, felly does dim rheswm pan na wnaeth Tywysog Madog 300 mlynedd cyn Columbus."