Chwaraewr rygbi Cymru'n cludo pobl drwy'r eira i'r ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jonathan Davies ei enwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 2017

Cafodd chwaraewr rygbi Cymru a'r Llewod, Jonathan Davies ei weld yn cludo pobl i'r ysbyty yn ei gar yn ystod y tywydd garw.

Doedd Davies methu teithio i faes ymarfer y Scarlets yn Llanelli ddydd Gwener, ac felly fe ddefnyddiodd ei amser i gludo doctoriaid a nyrsys i'w shifftiau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Cafodd ei ganmol ar Twitter am ei ymdrechion, ond dywedodd na fyddai wedi "gallu edrych" ar ei gerbyd 4x4 pe na bai wedi helpu.

"Roedd y ffyrdd yn reit wael, ond cyn belled â'ch bod chi'n cymryd eich amser roeddech chi'n ddigon saff," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jonathan Davies ddwsin o dripiau i'r ysbyty a nôl ddydd Gwener

"Roedd e'n anodd o gwmpas y lonydd llai, ond y gwaith wnaeth pawb i'w clirio nhw a'u gritio nhw, roedd e'n ymdrech anferthol gan bawb."

Dywedodd Davies fod ei bartner wedi lledaenu'r gair ei fod ar gael i gludo pobl, ac yn y diwedd fe wnaeth tua 12 trip yn cludo cleifion a staff meddygol i'r ysbyty a nôl adref.

"Roedd e fel gwasanaeth tacsi mwy neu lai," ychwanegodd.

Dyw Davies heb chwarae ers anafu ei dros wrth chwarae dros Gymru yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd, a does dim disgwyl iddo chwarae eto'r tymor yma.