Cyhuddo dyn 36 oed o ddynladdiad wedi ymosodiad Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Vista Lounge LLanelliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad ym mar Vista Lounge

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo dyn o ddynladdiad yn dilyn ymosodiad difrifol yn Llanelli ar noswyl Nadolig.

Bu farw Denzil Vaughan Edwards, 52 oed, o'i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 17 Ionawr.

Digwyddodd yr ymosodiad yn nhafarn Vista Lounge yn y dref.

Bydd David Wayne Jenkins, 36 oed, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli ar 5 Ebrill ar gyhuddiad o ddynladdiad.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.