BBC Cymru i greu 300 o leoedd hyfforddi

  • Cyhoeddwyd
BBCFfynhonnell y llun, www.markbassett.co.uk

Mae BBC Cymru yn bwriadu cynnig 300 o leoedd hyfforddi er mwyn ceisio cynyddu'r nifer sy'n dod o gymunedau sydd yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.

Bydd y cynllun newydd, sydd wedi'i gyhoeddi yn ystod wythnos genedlaethol prentisiaethau, hefyd yn creu 20 o leoliadau prentisiaeth a hyfforddiant newydd a llawn amser mewn newyddiaduraeth.

Mae'r gorfforaeth wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr (NCTJ), Creative Skillset a Llywodraeth Cymru i ddatblygu diploma lefel mynediad (lefel 3) mewn Newyddiaduraeth - y cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies bod hwn "yn gyfle i ni helpu i ddatblygu cenhedlaeth o wneuthurwyr-cynnwys mewn cymunedau ledled Cymru".

Ffynhonnell y llun, Patrick Olner
Disgrifiad o’r llun,

Bydd BBC Cymru yn symud i'w chartref newydd yn Sgwâr Canolog Caerdydd yn 2019

Bydd y brentisiaeth newydd yn cael ei darparu gan Goleg Caerdydd a'r Fro mewn partneriaeth â BBC Academy, gan ganolbwyntio ar ddenu pobl o gymunedau sy'n cael eu tangynrychioli.

Fe fydd 10 o brentisiaid yn cael eu recriwtio i ddechrau, gyda cheisiadau'n agor yn ddiweddarach yn 2018.

Bydd y prentisiaethau'n rhan o becyn ehangach o hyd at 300 o leoedd hyfforddi newydd sy'n cael eu creu gan BBC Cymru i gefnogi recriwtio i swyddi newyddion, chwaraeon a radio.

Ar hyn o bryd mae BBC Cymru yn cynnig tua 25 o brentisiaethau bob blwyddyn. Bydd y prentisiaethau newydd yn ychwanegol i'r rhain.

'Cryfhau newyddiaduraeth'

Dywedodd Mr Davies: "Mewn cyfnod o newid digyffelyb, mae hwn yn gyfle i ni helpu i ddatblygu cenhedlaeth o wneuthurwyr-cynnwys mewn cymunedau ledled Cymru.

"Mae'n hanfodol ein bod ni'n hyrwyddo mwy o amrywiaeth ar draws y diwydiannau creadigol yng Nghymru, a bydd y rhaglen newydd hon yn helpu i roi hwb i'n hymdrechion.

"Bydd y cynllun hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gryfhau hyfforddiant newyddiaduraeth yng Nghymru."