Metro ar fyd

  • Cyhoeddwyd

Roedd 'na gyfnod pan oedd lansiad car newydd yn ddigwyddiad o bwys, yn haeddu ei le ar y bwletinau newyddion. Pwy all anghofio dyfodiad y Fiesta neu'r Austin Mini Metro - "the British car to beat the world".

Efallai'n wir bod y Metro 'yn ddigon da i drechu'r byd' ond doedd e ddim yn ddigon da i achub British Leyland!

Math gwahanol o Fetro sydd dan sylw yn y Cynulliad ond unwaith eto ceir addewid y bydd y peth yn drawsnewidiol. Cawn wybod yn well ym mis Mai pan gyhoeddir enw a chynlluniau pa bynnag gonsortiwm fydd yn cael ei ddewis i olynu Arriva fel darparwr trenau Cymru.

Metro'r de-ddwyrain yw'r cyntaf mas o'r blocs a gellir cael rhyw syniad o sut siâp fydd ar hwnnw o'r mapiau wnaeth ymddangos yn ddisymwth ar wefan Trafnidiaeth Cymru rhyw fis yn ôl - mapiau y mae Plaid Cymru wedi bod yn gwneud môr a mynydd ohonyn nhw dros y dyddiau diwethaf.

Y broblem gyda'r mapiau yw bod eu hunion statws yn amwys. Ydyn, maen nhw'n ymddangos ar wefan y corff sydd i fod i oruchwylio'r Metro ond mae'r llywodraeth yn mynnu na fydd yr union gynlluniau yn cael eu datgelu cyn cyhoeddi enillydd y drwydded.

Fe gawn weld - ond rwy'n amau bod 'na fwy o siawns i chi gyrraedd Glyn Ebwy neu Faesteg mewn Mini Metro na mewn trên trydan!

Mae'r cynlluniau ar gyfer dau Fetro arall, un yn y Gogledd a'r llall yn y Gorllewin hyd yn oed yn fwy amwys.

Metro Sir Fflint a Sir Ddinbych yw un y gogledd mewn gwironedd ac mae'n anodd osgoi'r casgliad mai estyniad o MerseyTravel fydd hwnnw mewn gwirionedd. Mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith yn economaidd. Llai felly, efallai, o safbwynt diwylliant a chenedligrwydd.

Problem wahanol sy'n wynebu'r cynlluniau am Fetro yng ngorllewin Morgannwg a dwyrain Sir Gâr. Does neb yn amau bod angen dybryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus y rhanbarth ond mae systemau Metro gan amlaf wedi eu cynllunio ar gyfer cario teithwyr i galon dinas lle mae cyflogaeth a gwasanaethau wedi eu canoli.

Dyna yw'r patrwm sy'n bodoli eisoes yng Nghaerdydd ond mae cyflogwyr mawrion Abertawe wedi eu disbyddu trwy'r ddinas. Nid yn y canol y mae llefydd fel y DVLA, y Parc Menter na'r Brifysgol ac, yn wahanol i gymoedd y dwyrain, mae nifer o'r hen reilffyrdd glo megis un Cwm Tawe wedi hen ddiflannu.

Er tegwch, mae cynghorwyr Abertawe'n deall y broblem yn iawn ac yn gwneud eu gorau glas i geisio denu cyflogwyr i ganol y ddinas. Y cwestiwn mawr yw p'un ddaw gyntaf - y Metro neu'r angen am Fetro?