Bywyd ar ôl Carwyn

  • Cyhoeddwyd

Dwn i ddim beth fyddai ateb David Cameron pe bai rhyw un yn gofyn iddo beth oedd ei gamgymeriad mwyaf mewn gwleidyddiaeth.

Galw'r refferendwm wnaeth roi terfyn ar ei yrfa fyddai'r ateb amlwg - ond mae'r cyn-brif weinidog wedi mynnu'n gyhoeddus ei fod o hyd yn credu taw dyna oedd y peth iawn i wneud. Gadewch i ni feddwl am un arall felly. Beth am y frawddeg hon, dolen allanol yn ystod ymgyrch etholiad 2015?

"Terms are like Shredded Wheat, two are wonderful, three might just be too many"

Aeth Cameron ymlaen i ennill mwyafrif annisgwyl yn yr etholiad wrth gwrs ond o'r eiliad y gwnaeth e gymharu ei yrfa a'i fowlen brecwast fe ddechreuodd grym lithro o'i ddwylo gyda bron pob dim yn cael ei weld a'i benderfynu gydag un llygad ar yr olyniaeth.

A fyddai Boris Johnson wedi dringo ar ei fws coch pe na bai'n gwybod bod yna ras arweinyddiaeth ar y gorwel? Dim ond y blondyn ei hun all ateb y cwestiwn yna - ond mae gan sawl un eu hamheuon.

Fe wnaeth Tony Blair gamgymeriad digon tebyg a dyw e ddim yn syndod efallai bod Carwyn Jones yn gwrthod gosod amserlen ar gyfer ei ymadawiad yntau o weld beth ddigwyddodd i eraill.

Cymerwch y sylw a roddwyd gan rai aelodau cynulliad i'r erthygl yma, dolen allanol gan Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol, gyda rhai'n amau ei fod yn arwydd bod aelod Castell Nedd yn paratoi ymgyrch.

Nonsens medd Jeremy ei hun. Ymateb i erthygl gan Richard Wyn Jones yng nghylchgrawn Barn oedd ei eiriau meddau fe, ymdrech i sicrhau bod 'na drafodaeth ynghylch cyfeiriad a syniadau'r blaid cyn mynd ati i ddewis yr arweinydd nesaf.

Mae'r esboniad yn un digon rhesymol ond dyma i chi ffaith fach ddiddorol. Cyn penodi Jeremy sesiwn fach ddigon tila oedd sesiwn gwestiynau'r Cwnsler Cyffredinol gyda dim ond un neu ddau o gwestiynau'n cael eu gofyn gan amlaf.

Erbyn hyn mae'r sesiwn yn tueddu llenwi'r amser sydd wedi ei chlustnodi ar ei chyfer, bron fel pe bai aelodau'r cynulliad yn defnyddio'r peth fel rhagbrawf!

Mae'r cloc yn tician.