Nic Cric a'r Grands Projets

  • Cyhoeddwyd

Dywedodd Saunders Lewis rhyw dro bod hi'n bosib i ddyn fyw'n rhy hir. Dwn i ddim os ydy hynny'n wir am Nicholas Edwards ond roedd hi'n sioc i mi ddoe bod yna bron neb yn yr ystafell newyddion â chof personol o'i gyfnod fel Ysgrifennydd Cymru. Roedd hynny'n llai o syndod wrth i mi sylweddoli bod hi'n ddeng mlynedd ar hugain ers i'n hysgrifennydd gwladol mwyaf hirhoedlog benderfynu gosod ei dŵls ar y bar a symud ymlaen i borfeydd brasach.

"Si monumentum requiris, circumspice" medd y geiriau ar y garreg a osodwyd i gofio Sir Christopher Wren yng nghadeirlan Saint Paul's. "Os geisiwch ei gofeb, edrychwch o'ch cwmpas" yw ystyr y geiriau a does ond angen i mi gerdded at ffenest ein swyddfa yn Nhŷ Hywel i weld cofeb Nicholas Edwards -y bared ar draws Bae Caerdydd a'r holl ddatblygiadau daeth yn ei sgil.

Gallwn ddadlau hyd syrffed ynghylch pa mor ddibynnol ar lethu llanw a thrai Mor Hafren oedd trawsnewidiad de Caerdydd a p'un ai y byddai gwario'r arian ar brosiectau llai ar hyd a lled Cymru yn decach ac yn fwy effeithiol.

Un peth sy'n sicr. Pe bai pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid sefydlu Cynulliad yn refferendwm 1979 byddai 'na ddim barad ar draws y Bae heddiw. Gweledigaeth un dyn oedd yr argae ac mae'n anodd dychmygu y byddai unrhyw fforwm democratiaeth Gymreig wedi ei chymeradwyo.

Mae prosiectau o'r fath ond yn bosib o ganoli grym yn nwylo un gwleidydd - bod hwnnw'n Unben, yn Arlywydd, yn Faer neu'n Ysgrifennydd Gwladol. Nid gormodedd oedd cymharu grym yr Ysgrifennydd Gwladol ers talwm a Llywodraethwyr Cyffredinol y Raj. Porth India Nicholas Edwards yw barad Bae Caerdydd.

Francois Mitterand oedd meistr y Grande Projets ac mae ei farc i'w weld ar Baris hyd heddiw ac er eu bod yn ddadleuol ar y pryd mae'r rhan fwyaf o'r prosiectau yn destun balchder. Go brin fod yr un peth yw wir ymhlith Llundeinwyr wrth iddyn nhw syllu ar fysiau drudfawr a rhaffbont Boris Johnson heb son am y bil enfawr am ardd-bont na osodwyd un fricsen ohoni ar lan afon Tafwys.

O safbwynt y barad rwy'n amau bod y mwyafrif bellach yn gweld ei gwerth. Mae p'un ai y byddai Grande Projet arall Nicholas Edwards, Tŷ Opera ysblennydd Zaha Hadid, wedi ennill ei phlwy yn fater arall!