Cân y Babis: Chwilio am enw Cymraeg i'ch plentyn?
- Cyhoeddwyd
Mae Sioe Frecwast Dafydd a Caryl ar BBC Radio Cymru 2 wedi cyhoeddi bydd Cân y Babis yn dod yn ôl... hwrê!
I'r rheiny ohonoch chi sydd ddim yn ei chofio - mae Cân y Babis yn gân sy'n dathlu'r babis gafodd eu geni yn ystod y mis aeth heibio.
Felly, os oes 'na fabis newydd yn y teulu - wedi eu geni yn ystod mis Ebrill - ebostiwch eu henwau at sioefrecwast@bbc.co.uk er mwyn eu cynnwys yng Nghân y Babis, fydd yn cael ei darlledu ddechrau Mai a'i chyfansoddi gan Caryl Parry Jones.
Ac os ydych chi'n chwilio am syniadau, efallai gall Cymru Fyw helpu!
Dyma'r rhestrau diweddaraf (2016) o'r enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ar blant, ynghyd â'r enwau mwyaf anghyffredin, yn ôl y Swyddfa Ystadegau (ONS).
Mae 'na ambell i enw annisgwyl yno! Fe ddechreuwn ni gyda'r merched...
[Rydym wedi nodi'r nifer o blant gafodd yr enwau yn 2016 mewn cromfachau]
10 enw Cymreig mwyaf poblogaidd ar ferched:
1) Erin (114)
2) Seren (112)
3) Ffion (88)
4) Megan (84)
5) Alys (70)
6) Mali (64)
7) Eira (44)
8) Cadi (38)
9) Nia (38)
10) Lowri (34)
Enwau Cymreig lleiaf cyffredin ar ferched (yn nhrefn yr wyddor):
Aderyn (3)
Awel (4)
Begw (4)
Ceri (3)
Dona (3)
Eirwen (4)
Elain (3)
Elenid (3)
Enlli (3)
Eos (4)
Fflur (4)
Gladys (4)
Gwenan (3)
Lili-Mai (3)
Lona (3)
Madlen (3)
Mati (3)
Meri (4)
Nesta (3)
Non (3)
Rhianwen (3)
Saran (4)
Seren-Rose (4)
Siwan (4)
Swyn (4)
Mae'r enw Ceri yn llawer llai cyffredin nag yr oedd yn y gorffennol - yn 1997 cafodd 91 o ferched eu henwi'n Ceri, ond erbyn 2016 dim ond tair oedd.
Efallai ei bod yn syndod hefyd i weld enwau cyfarwydd fel Siwan, Gwenan a Fflur yn y rhestr o enwau anghyffredin. Ond, maen nhw'n parhau'n enwau cyffredin yn y boblogaeth drwyddi draw.
Yn 2001 roedd 16 babi wedi ei enwi'n Siwan, yn 2013 roedd 10 Fflur, ac yn 2008 roedd 12 Gwenan.
Efallai fod yr enw Aderyn yn llai cyfarwydd, ond ers y flwyddyn 2000 mae o leiaf 36 merch fach wedi eu henwi yn Aderyn.
Beth am y bechgyn felly?
10 enw Cymreig mwyaf poblogaidd ar fechgyn:
1) Dylan (149)
2) Harri (137)
3) Osian (116)
4) Tomos (83)
5) Rhys (73)
6) Jac (72)
7) Evan (67)
8) Morgan (64)
9) Cai (58)
10) Owen (57)
Enwau Cymreig lleiaf cyffredin ar fechgyn (yn nhrefn yr wyddor):
Alun (3)
Alwyn (3)
Bevan (4)
Bleddyn (4)
Cadan (4)
Caerwyn (3)
Calon (3)
Cellan (4)
Cynan (4)
Deian (4)
Deiniol (3)
Elai (4)
Gwyn (3)
Lleu (4)
Math (4)
Osian-Lee (3)
Rheon (4)
Rhion (4)
Rhun (3)
Seren (3)
Teifion (3)
Tudur (3)
Mae Dylan yn parhau i fod yn enw poblogaidd ac mae Morgan wedi tyfu mewn poblogrwydd yn ddiweddar.
Mae Cadan yn enw Cymraeg ac yn dod o'r gair 'cad' am frwydr (e.e. 'ar flaen y gad'). Ond, mae'r sillafiad Caden yn llawer mwy poblogaidd (66 o blant).
Mae Cellan, dolen allanol yn enw ar bentref yng Ngheredigion, ac mae'r enw i'w glywed yn aml ar newyddion y BBC pan fo Rory Cellan Jones yn gohebu - enw a gafodd gan ei dad, James Cellan Jones o Abertawe.
Mae Seren yn enw ar ferch neu fachgen - ac er bod Seren yn un o'r enwau mwyaf poblogaidd i ferched, dim ond tri bachgen gafodd yr enw yn 2016.
Mae'r enwau Math a Lleu yn ymddangos yn chwedlau'r Mabinogi - Math fab Mathonwy a Lleu Llaw Gyffes.
Mwy o fanylion...
Mae'r rhestrau yn seiliedig ar enwau plant gafodd eu geni yn 2016.
Er mwyn diogelu cyfrinachedd unigolion, dydy Swyddfa'r Ystadegau ddim yn rhyddhau gwybodaeth pan fo dim ond un neu ddau o blant wedi derbyn enw penodol.