Adran Dau: Barnet 2-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Barnet v CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi disgyn i'r 14eg safle yn Adran Dau ar ôl colli oddi cartref yn Barnet.

Shaq Coulthirst a Ricardo Santos gafodd y goliau i dîm Martin Allen, sydd yn brwydro i geisio aros yn y gynghrair.

Matty Dolan ddaeth agosaf i Gasnewydd, gan daro'r trawst.

Mae'n golygu bod yr Alltudion bellach wedi colli tair o'u pum gêm ddiwethaf.