Sianel deledu ar-lein newydd gan bobl Môn i bobl Môn

  • Cyhoeddwyd
TeliMôn

Bydd ffrwyth menter newydd gan, ac ar gyfer, pobl Ynys Môn yn gweld golau dydd am y tro cyntaf ddydd Iau.

Sianel deledu ar-lein yw TeliMôn, a bydd yn darlledu cynnwys i bobl a chymunedau ar yr ynys sydd wedi'i greu gan bobl 'Gwlad y Medra'.

Ymhlith y rhaglenni ar y sianel yn y dechrau fydd 'Y Gornel Hanes', 'Ysbrydion Môn' a 'Sgen Ti Jôc?'.

Dau o'r ynys sydd wedi bod yn gwirfoddoli i gefnogi a datblygu sianel yw'r actorion John Pierce Jones a Marged Esli.

Mae'r ddau wedi datgan eu bod yn "gwbl gefnogol i TeliMôn a'r cyfleoedd a ddaw i dalentau ifanc yr ynys i ddysgu am eu diwylliant a'i lywio i'r 21ain ganrif tra'n bod yn rhan o fenter cyfrwng cymdeithasol fwyaf newydd yr ynys".

Disgrifiad,

Mae'r sianel yn "gyfle i feithrin sgiliau pobl ifanc" medd y cadeirydd Vaughan Evans

Menter Môn sy'n gyfrifol am y sianel, a dywedodd Jackie Lewis o'r fenter: "Mae'n bleser pur cael bod yn rhan o'r cynllun newydd yma i Fôn.

"Bydd yn cefnogi talent newydd i fod yn rhan o greu deunydd ar gyfer teledu ar-lein.

"Bydd TeliMôn yn galluogi pobl i gael ymdeimlad o berthyn i le, ac yn cael ei wneud mewn ffordd sydd ddim yn draddodiadol... Amdano chi - Gyno chi - I chi."

jackie lewis
Disgrifiad o’r llun,

Jackie Lewis o Fenter Môn gydag arwyddair y sianel newydd

Mae TeliMôn yn rhan o gynllun peilot am flwyddyn, ac mae £40,000 wedi dod at y cynllun o Ewrop a Chronfa Elusennol Ynys Môn.

Bydd y sianel yn mynd yn fyw am 18:00 nos Iau.