Iestyn Jones: Wedi curo ond ddim cweit ennill
- Cyhoeddwyd
Fel Gwlad y Gân, mae Cymru'n enwog am ei chantorion a'i chorau, ond fel drymiwr mae disgybl ysgol o Bowys eisiau gwneud ei farc yn y byd cerddoriaeth.
Mae Iestyn Jones o Ben-y-bont-fawr yn Nyffryn Tanat yn 16 mlwydd oed a cham yn nes at wireddu ei freuddwyd o fod yn ddrymiwr proffesiynol ar ôl cyrraedd y 10 terfynol yng nghystadleuaeth Drymiwr Ifanc y Flwyddyn.
Er na enillodd Iestyn, mae cyrraedd y rownd derfynol yn dipyn o gamp ac yn arwydd o safon uchel y drymwyr meddai trefnydd y gystadleuaeth, y drymiwr Mike Dolbear.
Wedi cael eu rhoi ar restr fer o 40 mae'r 10 cystadleuydd gorau yn cael eu gwahodd i chwarae o flaen panel o chwaraewyr proffesiynol ac arbenigwyr y diwydiant yn y rownd derfynol.
Mae perfformiad Iestyn yn y gystadleuaeth gafodd ei chynnal yn Lemington Spa newydd ei rhoi ar YouTube, dolen allanol
Gwneud gyrfa fel drymiwr
Mae nifer o gyn enillwyr a chystadleuwyr terfynol wedi mynd ymlaen i wneud gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.
"Mae'r beirniaid i gyd yn bobl broffesiynol ac yn bobl roedden ni i gyd yn edrych i fyny atyn nhw ac roedd yn rili cŵl gallu siarad efo nhw" meddai Iestyn sy'n drymio ers ei fod yn saith oed.
"Mae hefyd yn rhyw fath o blatfform i ni, maen nhw'n gwybod pwy ydyn ni, yn rhoi cyngor i ni a rydyn ni'n gallu networkio efo nhw ar gyfryngau cymdeithasol - so mae'n ffordd dda o gael eich enw allan."
"Mae un o'r enillwyr blaenorol wedi bod ar daith efo Emeli Sandé, Rita Ora ac Olly Murs - dyna ydi'r gôl i fi.
"Dwi ddim yn meindio os 'dio ddim yn rhywun fel Olly Murs, jyst mod i'n gallu chwarae i wahanol bobl, teithio a gwneud gyrfa o chwarae'r dryms."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cymuned agos
Does dim gymaint o fodelau rôl yn y diwydiant drymio yng Nghymru ag sydd o gantorion meddai Iestyn: "Mae gennyn ni Gwyn Maffia ac mae Osian Candelas yn chwarae hefyd ond does dim llawer o Gymry Cymraeg yn gyffredinol yn ddrymwyr amlwg.
"Dydi o ddim yn faes mor gystadleuol â chanu, sydd â lot mwy o bobl yn ei wneud o.
"Mae'r gymuned ddrymio llawer agosach dwi'n meddwl achos mewn cystadlaethau fel hyn mae pawb yn ffrindiau a does dim drwgdeimlad yn erbyn ein gilydd - rydyn ni'n gwthio ein gilydd i wneud yn well," meddai.
Cyrhaeddodd Iestyn hefyd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Future Beats Yamaha 2017 ar ôl ennill y rownd ranbarthol yng Nghaerdydd.
Roedd hefyd yn aelod o fand cyfres Pwy Geith y Gig ar S4C yn 2016.
Bydd cyfle i gynulleidfa Sesiwn Fawr Dolgellau 2018 weld y cerddor ifanc hefyd: er ei fod yn paratoi at ei arholiadau AS mewn Cerdd, Celf a Chymraeg, mae'n canfod amser i chwarae gyda band yr artist unigol o Ddolgellau, Lewys Meredydd.
Mae'n chwarae ar ei sengl newydd Yn Fy Mhen sydd wedi ei ryddhau ar label Yws Gwynedd, Côsh.