Gêm o rifau

  • Cyhoeddwyd

Dyma ni felly. Mae bron i wythnos wedi mynd heibio ers i Carwyn Jones danio'r gwn ar gyfer un o'r rasys hwyaf am arweinyddiaeth plaid wyf fi'n galli ei chofio.

Ar y llinell gychwyn, yn ei siorts a'i ddaps, mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford ond ble ar y ddaear mae pawb arall? Lle mae Vaughan Gething, Eluned Morgan, Jeremy Miles, Ken Skates ac unrhyw aelod arall sy'n ystyried taflu ei gap neu ei chap i'r cylch?

Dyma esboniad posib i chi.

Er mwyn sefyll mae angen i ymgeisydd enwebu ei hun a sicrhau cefnogaeth pum Aelod Cynulliad arall, hynny yw, mae angen cefnogaeth ugain y cant o'r grŵp.

Naw aelod ar hugain sydd yn y grŵp a chan gynnwys fe'i hun mae naw ohonynt yn cefnogi Mark Drakeford. O gymryd na fydd Carwyn Jones yn cymryd ochr mae hynny'n gadael pedwar ar bymtheg o enwebwyr posib.

Mae pump o'r rheiny yn cynrychioli etholaethau yn y Gogledd Ddwyrain ac ymddengys eu bod yn ymddwyn fel bloc gan aros i weld p'un ai ydy Ken Skates am fentro'i enw. Mae'n debyg bod Ken rhwng dau feddwl ynglŷn â'r peth.

Dyna ni lawr i bedwar ar ddeg felly gyda phedwar ymgeisydd posib Eluned, Vaughan, Huw Irranca a Jeremy i gyd yn ei chwennych.

Does dim digon i bawb ac mae'n ddigon posib nad oes gan yr un ymgeisydd arall y gefnogaeth angenrheidiol.

Yn y cyd-destun hynny mae'n werth darllen sylwadau'r ymgeisydd posib arall, Alun Davies ar ei flog, dolen allanol. Dyma sydd gan Alun i'w ddweud.

"We have the time and the space to have a debate before we actually need to have an election campaign. Over the coming months and until nominations open in September we have the opportunity to have a wide-ranging and open debate about the future of Welsh Labour... and this is a debate that will better happen if it is not seen through the prism of which candidate from whatever wing of the party is taking a position on a particular issue."

Mewn geiriau arall, pwyllwch.

Nid Alun yw'r unig aelod sy'n teimlo felly ac oherwydd hynny mae'n bosib y bydd hi'n wythnosau neu hyd yn oed yn fisoedd nes i ni wybod pwy fydd yn herio Mark Drakeford yn yr Hydref.

Wrth gwrs gallasai pethau gael eu sortio mas yn weddol o sydyn - yn enwedig os ydy aelodau'r bloc gogleddol yn dewis eu ceffyl yn fuan.

Yn y cyfamser gall Mark Drakeford ymlacio drwy ddarllen llyfr addas - "The Loneliness of the Long-Distance Runner" efallai.