Adran Dau: Casnewydd 2-1 Caergrawnt

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Casnewydd hwb i'w gobeithion o orffen yn y 10 uchaf yn Adran Dau wrth iddyn nhw drechu Caergrawnt ddydd Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o fewn hanner awr, gydag ergyd Mickey Demetriou yn curo'r golwr Dimitar Mitov.

Ychwanegodd Frank Nouble ail gôl ar ôl awr o chwarae gyda foli yn dilyn gwaith da gan yr eilydd Aaron Collins.

Daeth yr ymwelwyr yn ôl gyda gôl gan George Maris, ond roedd y Cymry eisoes wedi gwneud digon am y fuddugoliaeth.