Rhagolygon Owain Wyn Evans yn disgleirio yn America

  • Cyhoeddwyd
Owain Wyn Evans

Roedd hi'n ddiwrnod mwll a gwlyb pan ffarweliodd y cyflwynydd tywydd Owain Wyn Evans â BBC Cymru... ond mae o wedi dod â digon o heulwen i wylwyr yn ardal BBC Yorkshire gyda'i ragolygon tywydd bachog, llawn hwyl a 'sass'.

Ac erbyn hyn, mae ei boblogrwydd wedi lledu ymhellach, ac wedi cyrraedd Unol Daleithiau America!

Cafodd y cyflwynydd ei ganmol mewn neges ar Twitter gan Karamo Brown, un o gyflwynwyr y gyfres Netflix, Queer Eye, ble mae bywydau gwŷr di-glem yn cael eu trawsnewid gan bum dyn hoyw, fabulous.

Mae bwletinau lliwgar Owain wedi creu cryn argraff arno, yn enwedig y bwletin gwnaeth y llynedd i nodi Dydd Rhyngwladol Drag, dolen allanol, ble enwodd gymaint o artistiaid drag â phosib yn ei ragolwg!

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Karamo Brown

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Karamo Brown

Roedd Owain, wrth gwrs, wrth ei fodd:

"O'n i ffili credu'r peth - bod cyflwynydd rhaglen ar Netflix wedi dod ar fy nhraws i'n 'neud bwletinau tywydd ar Twitter, ac wedyn wedi tweetio amdanyn nhw! Dwi wedi cael ymateb rili da a lot o ddilynwyr newydd oherwydd e. Mae'n bril!

"Dwi wastad yn trio 'neud y math yma o fwletinau tywydd ar Twitter, sydd bach yn wahanol, chatty, eitha' anffurfiol. Ers i mi 'neud y fformat yma, maen nhw wedi dod yn eitha' poblogaidd gydag un math o gynulleidfa - pobl sydd bach yn iau a sydd ddim yn gwylio'r teledu i gael eu bwletinau tywydd nhw.

"Felly mae'n grêt fod rhywun fel fe wedi 'neud hyn, ac efallai fydd e'n denu mwy o bobl i weld y math o beth rwy'n ei 'neud. Mae e mor neis gweld bod pobl yn mwynhau be' ti'n 'neud!"