Uwchgynhadledd i geisio datblygu diwydiant bysiau Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd uwchgynhadledd yn Abertawe ddydd Iau yn ystyried sut i ddatblygu'r diwydiant bysiau yng Nghymru, gan greu gwasanaethau gwell a mwy cynaliadwy.
Dyma'r ail uwchgynhadledd i drafod y mater, a bydd yn pwyso a mesur yr hyn sydd wedi ei wneud i gefnogi'r diwydiant ers y llynedd, ac yn dewis cyfeiriad clir ar gyfer y diwydiant bysiau i'r dyfodol.
Bu'n flwyddyn heriol i'r diwydiant.
Mae mwy nag un cwmni bysiau wedi mynd i'r wal dros y 12 mis diwethaf, ac fe wnaeth ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru yn dangos bod nifer y milltiroedd sy'n cael eu teithio mewn bysiau yng Nghymru wedi gostwng o 20% dros ddegawd.
Fe wnaeth adroddiad gan un o bwyllgorau'r Cynulliad hefyd ddweud bod angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â thagfeydd traffig gan eu bod yn cael effaith ar wasanaethau bysiau.
Yn ystod yr uwchgynhadledd bydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates yn cyhoeddi buddsoddiad o £3.5m fydd ar gael i awdurdodau lleol i wella cyfarpar clyweledol ar fysiau a safleoedd bysiau.
'Asgwrn cefn'
Dywedodd Mr Skates: "Es i ati i gynnull yr uwchgynhadledd gyntaf y llynedd oherwydd mai cymysg fu hanes y diwydiant bysiau yng Nghymru yn 2016. Cyflwynais gynllun pum pwynt yn 2017 er mwyn ceisio sefydlogi a chefnogi'r diwydiant yn y tymor byr.
"Bydd yr uwchgynhadledd hon yn ystyried yr atebion mwy hirdymor sydd eu hangen arnon ni er mwyn cynnig gwasanaeth o ansawdd y gall ein teithwyr roi eu ffydd ynddo.
"Mae hwn yn gyfle i ni rannu syniadau ac i edrych ar ddyfodol y diwydiant, i ddiffinio'r hyn rydyn ni'n awyddus i'n gwasanaethau bysiau ei gynnig ac i ddeall sut gallwn ni gydweithio'n well er mwyn darparu'r gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd y mae cymunedau ym mhob cwr o Gymru yn eu disgwyl a'u haeddu.
"Gwasanaethau bysiau lleol rheolaidd yw asgwrn cefn ein system trafnidiaeth gyhoeddus, a nhw fydd sail y system honno yn y dyfodol hefyd. Maen nhw'n caniatáu i bobl ym mhob cwr o Gymru gyrraedd y gwaith, apwyntiadau ysbyty, sefydliadau addysg a gweithgareddau hamdden.
"Maen nhw'n hanfodol i fywyd Cymru ac mae teithwyr yn mynd ar oddeutu 100 miliwn o siwrneiau arnyn nhw bob blwyddyn. Dyna pam mae'r uwchgynhadledd mor bwysig er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i'n diwydiant bysiau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2017