Wil Cwac Cwac

  • Cyhoeddwyd

Dydw i ddim yn cofio cyfnod yn ein gwleidyddiaeth pan fuodd cymaint o chwiaid cloff o gwmpas y lle. Mae gennym un Prif Weiniodog, Theresa May, sy'n caniatáu i'w hysgrifennydd tramor racso ei pholisïau ar fympwy bron ac un arall, Carwyn Jones, sy'n cyfri'r dyddiau tan ei ymadawiad.

O leiaf yn achos Carwyn fe'i hun sydd wedi penderfynu peidio ag arwain ei blaid yn yr etholiad nesaf. Mae'r penderfyniad hwn allan o ddwylo Mrs May ond dydw i ddim wedi cwrdd ag un Tori sy'n disgwyl iddi oroesi'n hir ar ôl Brexit.

Ond pa ddyfodol i arweinwyr Cymreig y pleidiau eraill? Yn achos Neil Hamilton a Jane Dodds mae'n debyg bod dyfodol eu pleidiau'n fwy simsan na sefyllfa'u harweinwyr ond beth am Andrew RT Davies a Leanne Wood?

Mae'r ddau ohonyn nhw wedi bod yn arwain eu pleidiau ers oes pys bellach a hynny heb fawr o lwyddiant etholiadol. Mae'n anodd credu nad oes 'na rai o fewn y ddwy blaid sy'n deisyfu newid ond dydw i ddim yn synhwyro bod 'na gynllwynio'n mynd ymlaen i gael gwared ar y naill na'r llall.

Mae sefyllfa'r ddwy blaid yn rhyfeddol o debyg. Yn y ddwy mae 'na anniddigrwydd ynghylch yr arweinyddiaeth bresennol ond hefyd amharodrwydd i weithredu yn erbyn yr arweinydd.

Yn achos y Torïaid, mae llawer o'r anniddigrwydd yn deillio o'r tu hwnt i'r Cynulliad gyda rhai o fawrion y blaid yn San Steffan ac yn y blaid wirfoddol yn anhapus tost ynghylch perfformiad Andrew RT Davies. Ond dyw'r un lefel o anniddigrwydd ddim yn bodoli o fewn y grŵp yn y Cynulliad a does 'na ddim cytundeb ychwaith ynghylch pwy allai olynu'r arweinydd presenol. Os na newidiff pethau felly mae Andrew yn saff yn ei swydd.

Yn achos Plaid Cymru mae ymddangosiad grwpiau fel Yes Cymru a grŵp gweithredu newydd Neil Mcevoy yn adlewyrchu anniddigrwydd yn rhengoedd y blaid ar lawr gwlad. Ar ben hynny mae'r sefyllfa yn Llanelli lle mae'r blaid leol wedi ei hatal yn awgrymu bod trefniadaeth ganolog y blaid yn dipyn o siambls.

Ar ben hynny dyw'r blaid dim eto wedi datblygu strategaeth wleidyddol i ymateb i Lafur wrth iddi symud i'r chwith. Mae ymosod ar 'ddiffyg uchelgais a gweledigaeth' Llafur Cymru wedi bod yn dacteg bur effeithiol hyd yma ond fe fydd hi'n llawer anoddach ei defnyddio yn erbyn Prif Weinidog newydd yn ystod ei fis mel.

A fyddai arweinydd newydd yn gallu creu naratif newydd yw'r cwestiwn sydd angen ei ofyn. Mae dyfodol Leanne yn dibynnu ar yr ateb i'r cwestiwn yna.