Y gwin yn troi'n sur

  • Cyhoeddwyd

Mae gwallgofrwydd Gorffennaf yn hen hen ffenomen mewn gwleidyddiaeth. Mae'r wythnosau olaf cyn gwyliau hir yr haf yn draddodiadol yn gyfnod o ymgecru, cynllwynio a drwg deimlad oddi mewn i'r pleidiau a rhwng y gwahanol bleidiau a'i gilydd.

Ymddengys fod y 'midsummer madness' wedi cyrraedd y Bae yn gynnar eleni. Os ydych chi'n gwrando ar sibrydion - a fi'n hoff iawn o wneud hynny fe ddaeth grŵp Ukip yn agos iawn at hollti'n ddau mewn cyfarfod neithiwr. "Fake news" medd rhai o fewn y blaid. "Rwy'n gwylio!" medd awdur y post hwn!

Wedyn dyna i chi'r drwgdeimlad cynyddol rhwng aelodau Plaid Cymru a'r rheiny ar y meinciau Llafur gyda Leanne Wood yn ysgrifennu at y Prif Weinidog i gwyno am ymddygiad 'nawddoglyd ac amhriodol' rhai o'i weinidogion. Doedd hi ddim yn amhriodol o gwbwl, wrth gwrs, y dydd o'r blaen wrth i Simon Thomas ddweud ei fod yn dymuno gweld Alun Davies yn diflannu i dwll yn y llawr!

Fe ddigwyddodd hynny ddydd Mawrth ond erbyn dydd Mercher Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates oedd ar gefn ei geffyl gan ymateb i gwestiwn gan Dai Lloyd ynghylch ail groesfan Hafren fel hyn.

"Do you know what—it's not just myself, it's people out there—find really depressing sometimes about this place is the lack of relevance to their lives? The Member could have asked a question about hundreds of jobs that have been lost in the region he claims to represent recently. A question could have been tabled on unemployed people. No, it was about the naming of a bridge. Not just once, but twice—[Interruption.] Not just once, but twice"

Esgorodd y geiriau hynny ar dipyn o dwrw yn y Siambr gydag aelodau Plaid Cymru yn mynnu bod deugain mil o bobol yn poeni digon am y pwnc i arwyddo deiseb yn ei gylch. Ar ben hynny, ai ateb cwestiynau neu gwestiynu cwestiynau yw'r rôl briodol i weinidog?

Mae ymgecru felly yn mynd yn fwyfwy normal y dyddiau hyn ac mae sawl aelod cynulliad yn breifat yn gresynu at surni llawer o'r sesiynau diweddar yn y siambr.

Munudau'n unig ar ôl i Ken Skates daranu fe gafodd y Cynulliad gyfle i drafod 'Polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru'. Dyma'r frawddeg gyntaf y polisi.

"Nod y polisi hwn yw sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, a'u bod yn cael eu parchu, wrth ymgysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru."

Beth fedrai ddweud am hynny? Rhywbeth am drawst a brycheuyn efallai.