Hedfan dreigiau 3D yng Nghastell Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Castell CaernarfonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae atyniad rhyngweithiol newydd yn un o gestyll mwyaf Cymru yn rhoi cyfle i bobl "hedfan" dreigiau o amgylch y safle.

Bydd ymwelwyr â Chastell Caernarfon yn gallu rheoli dreigiau 3D yn dilyn gwaith o greu hologram gan ddatblygwyr gemau cyfrifiadurol.

Daw'r syniad wrth i gorff Cadw lansio ymgyrch Cestyll Byw i godi ymwybyddiaeth o'i safleoedd yng Nghymru.

Mae'r gêm 'Legends in the Sky' yn defnyddio technoleg taflunio i roi cyfarwyddiadau i'r ddraig drwy symud bys y defnyddiwr ar sgrin.

Ffynhonnell y llun, CADW
Disgrifiad o’r llun,

Mae gêm yn defnyddio technoleg taflunio i reoli'r dreigiau 3D

Mae'r dreigiau yn gallu chwythu tân a hedfan o amgylch model o seler o dŵr yr Eryr yn y castell.

Mae'r prosiect wedi'i gynllunio gan gwmni stiwdio ddigidol o Gaerdydd, Rantmedia.

Dywedodd Anton Faulconbridge o'r cwmni: "Rydym yn gobeithio bydd y cyhoedd yn mwynhau ei chwarae cymaint â wnaethon ni fwynhau creu'r gêm."

Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cadw wedi arwain y ffordd drwy ddefnyddio'r ffasiynau a'r tueddiadau diweddaraf i roi bywyd i hanes anhygoel Cymru, ac mae'r gêm hologram newydd hon yn enghraifft arall o hynny.

"Yn ddiweddar, dathlodd Cadw ei blwyddyn fasnachol orau ar gofnod, ac rydym yn gobeithio y bydd Legends of the Sky yn helpu i ddenu llawer mwy o bobl i Gastell Caernarfon drwy ddarparu ffordd newydd a chyffrous o fwynhau'r gaer drawiadol."