Cymru, cawsom ein Moses!
- Cyhoeddwyd
Bob dydd, yma yn y gwaith, rydym yn derbyn rhai dwsinau o ddatganiadau newyddion, a rhaid yw eu darllen nhw i gyd er taw ychydig sy'n dod o'r rhan fwyaf ohonyn nhw.
Ymhlith y melinau newyddion mwyaf cynhyrchiol y mae Swyddfa Cymru a gallwch fentro swllt neu ddau y bydd eu datganiadau yn cynnwys y gair 'trawsffiniol' y dyddiau hyn. Roedd hyd yn oed y cyhoeddiad ynghylch gwasanaethau trenau Cymru ar ddechrau'r wythnos yn gyfle 'i ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cymru a Lloegr' yn ôl sgriblwyr Tŷ Gwydr. Bingo!
Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen ynghylch agwedd obsesiynol braidd Swyddfa Cymru tuag at gysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr ond mae'r ymdrech ddiweddara yn ymylu ar fod yn ddoniol ac yn mynd a ni i fyd o rith lle mae'r moroedd yn diflannu, y dyfroedd yn rhannu a'r gwlyb yn troi'n sych.
Derbyniais yr amrywiaeth ddiweddaraf ar y thema ddoe - datganiad newyddion, dolen allanol gyda'r pennawd hynod afaelgar 'Wales and South West England's joint innovation strengths highlighted in a new index produced by Data City' yn brolio am y cysylltiadau economaidd cryf rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns yn amlwg ar ben ei ddigon. Dyma oedd ganddo i ddweud.
"This report demonstrates the value of the connectivity which is already underway between South Wales and the South West.In Bristol, Newport and Cardiff we have thriving digital and advanced manufacturing sectors, and our universities and higher education institutions have strong connections with industry and business on both sides of the Severn."
Am ryw reswm mae Alun yn fwy tawedog ynghylch 'clwstwr economaidd' trawsffiniol arall y mae adroddiad 'Data City' yn nodi sef rhanbarth 'Swansea-Exeter'.
Ym. Arhoswch eiliad. Sut mae honna i fod i weithio?
Does dim angen TGAU daearyddiaeth i wybod y byddai'n anodd iawn i chi deithio o Abertawe i Gaerwysg heb fynd trwy Gaerdydd, Casnewydd a Bryste ar y ffordd. Fe fyddai'n bosib, am wn i, i chi dwgyd cwch o farina Abertawe a'i hwylio o gwmpas Cernyw ac i fyny'r afon Exe ond rwy'n amau bod y traffig yna braidd yn ysgafn. Go brin ei fod yn ddigon i greu clwstwr economaidd!
Ond dyna ni. Yn ôl Data City mae'r cysylltiad rhwng Abertawe a Chaerwysg yn gryfach na chysylltiad ail ddinas Cymru â Chaerdydd!
I fod yn deg mae rhywun yn 'Data City' wedi sylwi bod 'na broblem. Ar ei gwefan, dolen allanol ceir hyn yn yr FAQs.
"Are Swansea and Cornwall really part of the same cluster?
Probably not..."
Rwy'n amau y byddai 'definitely' yn well air na 'probably' ond ta waeth am hynny, sut mae 'Data City' yn esbonio'r canfyddiad?
Wel sut mae esbonio popeth y dyddiau yma? Trwy feio'r cyfrifiadur wrth gwrs.
"We think that our clustering algorithm gives good results about nine times out of ten. It struggles because one of the main factors it uses to assign points to clusters is physical proximity. It doesn't understand what water is for example"
Neu mewn geiriau eraill "computer says no".
Nawr, mae'n chwerthinllyd braidd bod Swyddfa Cymru yn rhyddhau datganiad newyddion ar sail data sy'n amlwg amheus. Does ond gobeithio bod gwell sail i'w polisïau!
Cofiwch, mae 'na rywbeth eitha' apelgar ynghylch y syniad o'r ysgrifennydd gwladol yn sefyll ar y prom yn y Mwmbwls ac yn gorchymyn i'r dyfroedd agor o'i flaen. Cymru, cawsom ein Moses!