Disgwyl cymeradwyo cais Maes Awyr Gorllewin Cymru

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Gorllewin CymruFfynhonnell y llun, Maes Awyr Gorllewin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r datblygiadau newydd yn cael eu ar bob ochr i'r safle presennol

Mae cais o'r newydd i adnewyddu ac ehangu maes awyr yng Ngheredigion yn debygol o gael ei gymeradwyo gan swyddogion cynllunio.

Cafodd caniatâd llawn ei roi yn 2008 i adeiladu seilwaith newydd ar safle Maes Awyr Gorllewin Cymru ym Mlaenannerch ger Aberporth.

Roedd hynny'n cynnwys canolfan groeso, gorsaf dân, llety a chanolfan hyfforddi technegol, ond nid yw'r gwaith wedi dechrau ers hynny.

Nawr mae'r cwmni yn dweud eu bod am fwrw ymlaen gyda'r cynllun eto, ac maen nhw'n gofyn am estyniad pum mlynedd i'r cais cynllunio.

Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Ceredigion ddydd Mercher, ond mae swyddogion yn argymell caniatáu'r estyniad, fyddai'n "creu 500 o swyddi o safon uchel" yn ôl y cwmni.

Mae gan y cwmni gytundeb gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i gynnal hediadau awyrennau di-beilot o'r maes awyr, ond mae gan y cyhoedd yr hawl i ddefnyddio'r maes awyr hefyd.