Arddangos bwydydd Cymru yng ngorsaf Paddington

  • Cyhoeddwyd
PaddingtonFfynhonnell y llun, Victor-ny

Bydd ymwelwyr â gorsaf rheilffordd Paddington yn Llundain yn cael cyfle i flasu bwydydd a diodydd o Gymru mewn digwyddiad ddydd Iau.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones alw heibio wrth i wyth o gwmnïau o Gymru arddangos a gwerthu eu cynnyrch yn yr orsaf.

Mae'r bwydydd, fydd hefyd ar gael i'w prynu, oll wedi ennill gwobrau am eu safon.

Nid dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiad o'r fath gael ei gynnal yn Paddington, ac yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'n gydnabyddiaeth o'r enw da sydd gan sector bwyd a diod Cymru yn y DU.

Yr wyth cwmni fydd yn yr orsaf yw:

  • Becws Tan Y Castell;

  • Hufen Iâ Franks;

  • Bragdy Monty's;

  • Sidr Hallets;

  • Cwmni Cyffeithiau Radnor;

  • Diodydd Ysgafn Radnor Hills;

  • Cwm Farm Charcuterie;

  • Caws Cenarth.

'Diwydiant £7bn'

Dywedodd Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: "Mae bwyd a diod o Gymru wedi ennill enw da haeddiannol am fod yn unigryw ac yn gynnyrch uchel ei ansawdd.

"Mae gennym dargedau uchelgeisiol ac rydyn ni am weld y diwydiant yn tyfu 30%, gan ddod yn werth £7bn erbyn 2020. Rydyn ni'n agos iawn at gyrraedd y targed hwnnw'n gynnar.

"Mae'r digwyddiad hwn heddiw yn gyfle arall i gwmnïau bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynhyrchion y tu allan i Gymru ac mae'n gydnabyddiaeth bellach o'r parch tuag at y sector.

"Mae'n arbennig o amserol wrth inni baratoi i adael yr UE. Bydd y diwydiant bwyd a diod yn sector 'sylfaen' allweddol inni ar ôl Brexit.

"Rydyn ni'n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau diwydiant cryf a ffyniannus yng Nghymru ar ôl inni adael yr UE."