Wrth y llyw
- Cyhoeddwyd
Mae dyddiau'r cŵn wedi cyrraedd ac, yn ôl yr arfer, wrth i'r tymheredd godi y tu fas i'r senedd mae'r cynllwynio yn cychwyn oddi mewn iddi gyda phob un o'r pleidiau naill ai'n bwrw ati i ethol arweinwyr newydd neu'n ystyried gwneud.
Rwyf wedi hen roi'r gorau i geisio dyfalu beth wnaiff Ukip nesa. Y peth lleiaf tebygol posib yw'r ateb cywir gan amlaf! O safbwynt Llafur fe fydd hen ddigon o amser i bwyso a mesur yr ornest i olynu Carwyn Jones gan gynnwys efallai gofyn pam ar y ddaear fod y broses yn un mor hir a throellog.
Ond am nawr, beth am ganolbwyntio'r sylw ar y ddwy blaid lle mae rasys arweinyddol yn bosib ond yn bell o fod yn sicr.
Yn achos Plaid Cymru mae'r ffenest i herio Leanne Wood yn cau wythnos nesaf ac mae 'na bwysau amlwg ar Adam Price a Rhun ap Iorwerth i daflu eu capiau i'r cylch. Dyw'r naill na'r llall o'r ddau wedi gwneud fawr ddim i dawelu'r dyfroedd a rhoi terfyn ar y sibrydion. Eto i gyd, does 'na ddim sicrwydd o gwbwl y bydd 'na ras.
Pam felly? Wel, mae'n anodd osgoi'r casgliad bod Adam a Rhun yn aros i weld beth mae'r llall am wneud gan gofio efallai'r hen wireb taw nid yr un â'r gyllell yn ei law sy'n cipio'r goron. Yn achos Adam, yn fwyaf arbennig, fe fyddai ymuno â ras dau geffyl oedd eisoes yn cael ei redeg yn llawer haws esbonio na herio arweinydd sy'n gyfaill personol a gwleidyddol.
Ond mae 'na gwestiynau eraill yn wynebu'r ddau.
Yn gyntaf, oes modd trechu Leanne Wood? Wedi'r cyfan gall her aflwyddiannus ddryllio gyrfa wleidyddol. Gweler Owen Smith. Ar y llaw arall, a fyddai oedi tan ar ôl etholiadau'r cynulliad yn agor y drws i ymgeisydd posib arall? Dyw e ddim yn anodd dod o hyd i bleidwyr sy'n fodlon darogan mai Liz Saville Roberts fydd yn olynu Leanne Wood os ydy Leanne yn llwyddo i oroesi tan 2021.
Draw ar y meinciau Ceidwadol mae sefyllfa bur debyg yn bodoli. Mae 'na anfodlonrwydd ynghylch sefyllfa'r blaid a chwestiynau'n cael eu gofyn ynghylch tactegau Andrew RT Davies a dyfodol ei arweinyddiaeth.
Fel yn achos Leanne Wood dyw'r anfodlonrwydd yna ddim yn deillio o falais personol nac ewyllys drwg a hyd yma does neb wedi camu ymlaen i herio Andrew.
Serch hynny, mae pethau'n poethi. Nid Guto Bebb yw'r unig Geidwadwr yn San Steffan sydd wedi colli amynedd ac Andrew. Dyma'r cwestiwn allweddol felly. A fydd yr aelodau seneddol yn gallu dwyn pwysau ar yr aelodau cynulliad i weithredu? Cawn weld.