Patrwm y garthen Gymreig a'n diwydiant cynhenid 'olaf'
- Cyhoeddwyd
O fygiau i glustogau, dillad a llieniau bwrdd, mae'r patrymau oedd yn arfer bod ar hen garthenni gwlân ar wlâu'r werin yng Nghymru bellach i'w gweld ar bob math o nwyddau cyfoes.
Mae'r hen garthenni teuluol a daflwyd o sawl cartref yn y 1970au yn harddu tudalennau sgleiniog cylchgronau steil y tu hwnt i Gymru hefyd, ac yn gallu gwerthu am bres mawr.
Ac mae rhan o gynllun Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2018 wedi ei ysbrydoli gan garthen.
Ond er bod y patrymau eu hunain wedi bod yn mwynhau adfywiad, mae'r grefft a'r wybodaeth tu ôl iddyn nhw yn y fantol wrth i wehyddwyr Cymru heneiddio, meddai Mark Lucas curadur Amgueddfa Wlân Cymru yn Nhre-fach, Felindre.
Mae cofnod bod 900 o felinoedd gwlân wedi bod yng Nghymru ar un adeg, yn ôl Mr Lucas.
"Roedd gan bob plwyf, pob tref ei melin wlân neu waith oedd ynghlwm â'r diwydiant gwlân," meddai.
"Mae'n un o'n diwydiannau hynaf a gallwn ei olrhain nôl i'r cyfnod Celtaidd."
'Colli'r wybodaeth - ac yn gyflym'
Er nad oeddent yn cyflogi'r un niferoedd â diwydiannau fel dur, glo a llechi, y melinoedd gwlân oedd y diwydiant mwyaf cyffredin yng Nghymru ers talwm.
Ar droad yr 20fed ganrif roedd tua 300 o felinau yng Nghymru, meddai Mr Lucas. Ar ôl cynnydd byr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd lawr i 80 erbyn 1947 a dim ond 12 sydd ar ôl heddiw.
"Rydyn ni'n colli'r wybodaeth yma ac yn ei cholli'n gyflym," meddai.
"Rydyn ni'n ceisio gwneud prentisiaethau yma [ym Melin Teifi] ond os ewch chi i lawer o'r melinoedd yma, does dim un ohonyn nhw'n ifanc.
"Un o'r melinoedd mwyaf adnabyddus yw Melin Tregwynt ac maen nhw'n rhoi cyfle i ddylunwyr a gwehyddwyr newydd ac mae hynny'n un o'r pethau da maen nhw'n ei wneud - ond busnes bach ydyn nhw."
Pa mor 'Gymreig'?
Mae'r cofnod cynharaf o'r patrymau geometrig ar garthenni Cymru yn dyddio nôl i 1775 ac i'w gael yng nghasgliad Archifau Sir Ddinbych., dolen allanol
Mae'r llyfr patrymau oedd yn eiddo i'r gwehydd William Jones o Holt, Wrecsam, yn cynnwys bron i 100 o wahanol batrymau.
"Fe wyddon ni fod y Celtiaid yn gwisgo plaid (brethyn debyg i dartan)," meddai Mr Lucas, "ac rydym yn gwybod o lyfr William Jones fod y cynlluniau geometrig wedi dod mewn erbyn diwedd y 1700au.
"Ond o ble daeth, sut y dechreuodd, wyddon ni ddim - ond hyn a hyn o batrymau fedrwch chi eu creu ar wŷdd (ffrâm wehyddu)."
Roedd pob gwehydd yn penderfynu ar ei batrwm ei hun ac mae'n anodd iawn dweud o ble mae pob patrwm yn dod, meddai Mark Lucas, er bod rhai gwerthwyr yn rhoi enwau fel 'Caernarfon' i rai patrymau.
"Mae yna lawer o bobl sy'n honni bod yn arbenigwyr tecstiliau ar batrymau Cymreig, ond yn anffodus dydyn nhw ddim - masnachwyr blancedi sy'n ceisio gwerthu blanced ydyn nhw. Mae na lawer ohonyn nhw ac mae'n gallu creu problemau," meddai Mr Lucas.
Mae'r patrymau sydd ar flancedi o Bennsylvania yn yr Unol Daleithiau yn debyg iawn i'r rhai Cymreig a'r gred ydy mai dylanwad y Cymry a ymfudodd i'r ardal honno sy'n gyfrifol am hynny.
"Crefft Gymreig oedd y patrymau geometrig, ac rydyn ni'n dal i feddwl amdanyn nhw heddiw fel blancedi Cymreig," meddai Mark Lucas.
'Cefnogwch y melinau'
Mae Cefyn Burgess, un o wehyddion a dylunwyr amlycaf Cymru, yn cytuno bod angen gwarchod yr etifeddiaeth yma.
"Mae'n wych bod y patrymau yma'n eiconig ond mae eisiau bod yn ofalus sut mae rhywun yn eu cyflwyno nhw," meddai.
"Yr awydd i chwilio am rhywbeth Cymreig sydd tu ôl i'r defnydd masnachol o'r patrymau yma.
"Be' sydd gennym ni, yr un fath â tartan yn yr Alban, ydy creu delwedd Gymreig sydd ddim o angenrhaid yn rhywbeth sydd wedi bod mewn difri. Mae fel y fersiwn gyfoes o gael y ddraig goch yn dy stafell fyw.
"Pethau ffwrdd-â-hi ydyn nhw. Efallai bod peryg o orddefnyddio patrwm y carthenni gwreiddiol."
Y melinau gwlân yw un o'r diwydiannau Cymreig "olaf" sy'n dal gennym ni, meddai Mr Burgess a fu'n gweithio ym Melin Wlân Trefriw ac sy'n gwerthu ei waith yn ei siop yn Rhuthun bellach.
"Os ydi Cymru wirioneddol eisiau magu ei diwydiant crefft cynhenid traddodiadol olaf, sef y melinoedd gwlân, a phobl eisiau gwario'u pres i greu delwedd Gymreig, yna ewch i'r melinoedd gwlân i nôl eich carthen neu'ch blanced, gofynnwch iddyn nhw wneud un i chi neu prynwch hen un wreiddiol gan arbenigwyr fel Jen Jones yn Llanbed y gallwch ymddiried ynddynt," ychwanegodd.
Rhoi'r gorau i'r patrwm
Mae un cwmni sydd wedi bod yn creu nwyddau cyfoes gyda'r patrymau traddodiadol yma wedi cyhoeddi yn 2018 eu bod yn symud ymlaen i gynlluniau newydd.
Ar ôl gwerthu clustogau a gorchuddion lampau yn y patrwm 'carthen' ers sawl blwyddyn mae cwmni Peris & Corr o Benygroes ger Caernarfon wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi'r gorau i gynhyrchu'r patrwm.
"Mae'n gynllun clasurol, roedden ni'n hoffi ei symlrwydd a pha mor drawiadol ydy o ac roedden ni'n gallu ei addasu fel patrwm cyfoes i'w argraffu â sgrîn," meddai Jennie Corr, sy'n rhedeg y cwmnni gyda Dyfrig Peris.
"Ond rydyn ni wedi bod yn ei wneud am wyth mlynedd bellach. Pan ddechreuon ni, dim ond ni oedd yn gwneud hyn o ran printio sgrîn.
"Mae'n dal yn boblogaidd iawn ond roedden ni eisiau gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, neu fe fydden ni'n edrych ar yr un peth bob dydd am byth ac fe allai hynny fynd bach yn ddiflas - roedden ni'n teimlo ei bod yn amser newid.
O ran y tuedd i weld mwy o flancedi fel y rhai Cymreig mewn cylchgronau dylunio, mae'n dilyn tuedd sy'n boblogaidd ar y funud, meddal Jennie Corr, ac mae i'w weld gan gynllunwyr Sgandinafaidd hefyd.
"Mae tuedd wedi bod tuag at hirhoedledd mewn cynnyrch a mynd yn ôl at gyfnod eich nain a thrysorau teuluol - pasio rhywbeth i lawr sy'n para," meddai.
"Dwi'n credu bod y patrwm yn ffitio mewn i'r math hwnnw o draddodiad.
"Efallai bod pobl eisiau rhoi'r flanced yna ar y gwely am eu bod eisiau'r teimlad yna fod rhywbeth wedi dod gan eu nain a bod yna stori y tu ôl iddo."