Pryder y gallai'r diwydiant melinau gwlân ddod i ben

  • Cyhoeddwyd
Mike Tolputt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike Tolputt yn cwestiynu os oes gan bobl ifanc y sgiliau a'r arian i gymryd yr awenau pan fydd perchnogion y melinau gwlân yn ymddeol

Mae'r dyfodol yn edrych yn ddu ar gyfer melinau sy'n cynhyrchu gwlân oni bai bod yna "newid sylfaenol" medd un perchennog melin wlân yng Nghaerfyrddin.

Pryder Mike Tolputt, sy'n 85, yw nad oes gan y genhedlaeth nesaf y sgiliau na'r modd ariannol i gamu i'r adwy pan fydd rhai o'r perchnogion presennol yn ymddeol.

Mae'n berchen ar felin yng Nghynwyl Elfed. Dim ond wyth sydd ar ôl yng Nghymru.

Diffyg nawdd a sgiliau

Ond mae eraill sydd wedi prynu melinau gwlân yn dweud bod yna "adfywiad tecstilau" yma a bod prentisiaethau gwehyddion ar y gweill.

Dywedodd Mr Tolputt: "Oni bai bod yna newid sylfaenol, dw i'n credu y gallai'r diwydiant ddirwyn i ben.

"Mae cymaint o'r perchnogion yn dechrau cyrraedd yr oed ymddeol a dw i ddim yn gweld llawer o bobl yn rhuthro i gymryd yr awenau. Mae'n bosib bod yna bobl ifanc sydd â diddordeb ond mae'n gwestiwn arall os oes gyda nhw'r sgiliau a'r nawdd i brynu."

Disgrifiad,

Mae Raymond Jones yn dweud bod angen cyflwyno gwaed newydd i'r diwydiant

Mae Eifion Griffiths, sy'n berchennog Melin Tregwynt yn Sir Benfro gyda'i wraig Amanda, yn cytuno bod hi'n "anodd rhagweld y diwydiant yn parhau fel y mae ar gyfer y 50 mlynedd nesaf".

Ond dywedodd bod yna fwy o alw am dapestri o Gymru.

Mae prynwyr yn poeni mwy am y "stori" ac mae'r bunt wan yn golygu bod cynnydd mewn gwerthiant dramor meddai.

Yn ôl Anna Grime, sydd gyda melin wlân yn Felinganol, Sir Benfro mae yna adfywiad mawr wedi bod yng Nghymru yn y diwydiant tecstilau yn y 12-18 mis diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gwsmeriaid ar gyfer gwlân Cymru yn Japan

Mae llawer o'r melinau wedi dweud eu bod yn gwerthu mwy o flancedi i gwsmeriaid yn Japan ac mae Calvin Jones, Athro Economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd yn hyderus ynglŷn â'r dyfodol.

"Mewn ffordd mae'r ffaith bod y diwydiant yn fach, yr hanes diwylliannol ac ansawdd uchel y cynnyrch yn golygu bod yna fwy o gyfleoedd na hen ddiwydiannau eraill Cymru."

Fe ddechreuodd Raymond Jones, 72, Melin Teifi yn Llandysul gyda'i wraig Diane yn 1981. Mae ganddo gytundeb i ddarparu blancedi i siopau Highrove y Tywysog Charles.

Gwaed newydd

Dywedodd bod y rhod wedi troi yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r diwydiant gwlân yng Nghymru yn ôl yn ffasiynol nawr...mae mwy o waith o gwmpas na sydd wedi bod am flynyddoedd.

"Y prif broblem ar gyfer y dyfodol yw bod gyda ni ddim staff wedi eu hyfforddi i gymryd drosodd... Mae angen mwy o bobl yn y diwydiant."

Disgrifiad,

Mae Ann Whittall, rheolwr Amgueddfa Wlân Cymru, yn dweud bod yna fwriad i greu prentisiaid

Mae rheolwr Amgueddfa Wlân Cymru, Ann Whittall yn gobeithio cynnig cyfleoedd prentisiaethau i bedwar person yn 2018 mewn cydweithrediadau gyda thair melin wlân yng Nghymru.

"Os allwn ni ddatblygu'r cynllun peilot yma, a bod o'n gweithio, mae'n rhywbeth y gallwn ni ystyried gwneud mewn melinau eraill a diwydiannau traddodiadol eraill o bosib," meddai.

'Dim amser i wastraffu'

Ond dyw rhai perchnogion melinau ddim yn siŵr a'i phrentisiaethau yw'r ateb gan ddweud bod yna beryg y bydd y bobl yn symud ar ôl cael eu hyfforddi.

Pwysleisio bod angen cynllun yn ei le ar gyfer graddedigion mae Llio James sy'n gyfrifol am gwrs tecstilau yng Ngholeg Sir Gar.

"Mae angen i berchnogion y melinau fod yn agored i'r newid a bod yn barod i hyfforddi. Mae 'na rhai sydd a dim diddordeb. Ar ddiwedd y dydd bydd y melinau yn dod i ben.

"Mi ydyn ni yn sôn am y blynyddoedd nesaf. Does dim amser i wastraffu."

Mae Mr Tolputt yn parhau yn bryderus am ddyfodol y diwydiant ac eisiau annog eraill i fod yn rhan o'r diwydiant.

"Os ydych chi yn meddwl eich bod chi yn gallu bod yn gyfrifol am felin, gwneud ffortiwn, prynu cwch hwylio a mynd i Barbados ar gyfer eich gwyliau, anghofiwch amdano fo. Dim chi yw'r person cywir.

"Ond os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwaith crefft ac yn cymryd balchder yn yr hyn rydych chi'n gwneud ac yn cael mwynhad o weld ymateb eich cwsmeriaid mae yna obaith y gallwch chi wneud i'r peth weithio."