S4C i roi'r gorau i blastig un-defnydd yn eu swyddfeydd

  • Cyhoeddwyd
Bleddyn MônFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe fu Bleddyn Môn yn hwylio o amgylch y byd ar gwch o'r enw 'Turn The Tide On Plastic'

Mae S4C yn bwriadu rhoi'r gorau i blastig un-defnydd yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yng Nghaernarfon.

Daw cyhoeddiad y sianel wrth iddyn nhw ddatgelu manylion wythnos arbennig pan fydd sawl rhaglen yn trafod ailgylchu ac ailddefnyddio plastig er mwyn yr amgylchedd.

Yn ogystal a thrafod ar raglen Ffermio sut all ffermwyr leihau defnydd ohono, bydd rhaglen Bleddyn Môn a'r Ras Cefnfor Volvo yn dilyn hwyliwr o Ynys Môn ar un o rasys hwylio mwya'r byd, gan roi sylw i'r holl lygredd plastig mae e wedi ei weld ar hyd y ffordd.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C Owen Evans: "Rydym oll wedi gweld y lluniau diweddar yn dangos yr effaith mae plastig un-defnydd yn cael ar yr amgylchedd yn gyffredinol a'r môr yn arbennig.

"Mae rheidrwydd arnom i gyd i gymryd camau rhagweithiol i leihau ein defnydd o blastig.

"Felly o hyn allan ni fydd S4C yn defnyddio cwpanau plastig na styrofoam, cyllell a ffyrc na phecynnau bwyd wedi eu gwneud o blastig."