Rasus

  • Cyhoeddwyd

Yr haf wrth gwrs yw tymor y mabolgampau yn ein hysgolion ac ymddengys bod yr un peth yn wir am Fae Caerdydd gyda'r pedair plaid bellach i gyd yn cynnal etholiadau arweinyddol.

Yn achos y Ceidwadwyr mae'n ymddangos bod grŵp y Cynulliad wedi bod yn reit gyfrwys yn eu tactegau.

Mae Torïaid y Bae ar y cyfan yn llawer mwy cymhedrol a chanol y ffordd na thrwch yr aelodaeth. Sut oedd sicrhau felly na fyddai ymgeisydd asgell dde yn cael ei ddyrchafu'n ben arnyn nhw?

Gan fod Nick Bourne wedi ei goroni'n ddiwrthwynebiad dim ond ar y ddau achlysur y mae aelodau'r blaid wedi cael dweud eu dweud ynghylch pwy ddylai arwain y blaid. Ar y ddau achlysur hynny mae'r aelodau wedi dewis yr ymgeisydd mwyaf asgell dde ac Eurosceptig. Rod Richards oedd y dewis yn 1999 ac Andrew RT Davies yn 2011.

O safbwynt y grŵp felly roedd 'na beryglon amlwg mewn cynnal etholiad. Fe fyddai peidio cynnal etholiad ar y llaw arall yn gadael yr arweinydd newydd heb y mandad allweddol i ddadlau ei bod neu ei fod yn arweinydd ar y cyfan o'r blaid yng Nghymru.

Yr ateb? Defnyddio hawl yr Aelodau Cynulliad i enwebu ymgeiswyr i gau allan yr asgell dde trwy enwebu dau ymgeisydd canol y ffordd.

Gallwn ddisgwyl i Paul a Suzy Davies geisio swyno'r Brecsitwyr yn ystod yr ymgyrch ond mewnwyr oedd y ddau ohonyn nhw ac fe fydd y grŵp o dan arweinyddiaeth y naill neu'r llall yn llawer tebycach i'r hyn oedd hi yn nyddiau Nick Bourne. Clyfar.

Fe fydd gen i fwy i ddweud am y ras i arwain Plaid Cymru yn y man ond teg yw dweud, fi'n meddwl, bod Rhun ap Iorwerth wedi gwneud ffafr â'i blaid a'i harweinydd presennol trwy benderfynu gorfodi etholiad.

Does dim dwywaith bod sylwadau Adam Price yn gynharach yn yr wythnos wedi clwyfo Leanne yn ddifrifol.

Dim ond trwy ennill mandad newydd y mae gwella'r clwyfau hynny. Fe fyddai sylwadau Adam wedi cael eu taflu at Leanne ym mhob dadl a sesiwn gwestiynau o hyn hyd dragwyddoldeb pe na bai 'na ornest.

Pwy sy'n debyg o ennill? Y cyfan ddywedai yw hyn. Fe wnes i daro mewn i Dafydd Trystan, cyn prif weithredwyr y Blaid, yn Nhafwyl dros y Sul. Fe fu'r ddau ohonom yn crafu'n pennau'n hir a methu'n lan a chofio unrhyw achlysur lle mae aelodau Plaid Cymru wedi diorseddu arweinydd neu hyd yn oed Aelod Seneddol neu Gynulliad yn groes i'w ewyllys.

Pobl deyrngar yw pobl y Blaid ar y cyfan. Mae Leanne yn cychwyn gyda'r fantais honno.