SOS Galw Dewi Llwyd

  • Cyhoeddwyd

Rwy'n un o'r rheiny sydd wastod wedi bod yn amheus ynghylch y posibilrwydd o etholiad cyffredinol cynnar. Rwy'n gwybod bod y gwrthbleidiau yn awchu am un ond oherwydd cyfyngiadau'r Deddf Seneddau Tymor Penodol (2011) mae hi bron yn amhosib iddyn nhw orfodi un.

Cyn i David Cameron a Nick Clegg gyflwyno'r mesur fel polisi yswiriant i'w clymblaid roedd colli pleidlais allweddol yn y Tŷ ynghylch cyllideb neu Araith y Frenhines, dyweder, yn gallu bod yn ddigon i ddymchwel llywodraeth. Y dyddiau hyn yr unig ffordd y gall y gwrthbleidiau orfodi etholiad yw trwy sicrhau mwyafrif i gynnig gyda'r union eiriad hwn "That this House has no confidence in Her Majesty's Government".

Mae'n anodd gweld unrhyw sefyllfa lle byddai naill a'i DUP neu rebeliaid Ceidwadol yn cefnogi cynnig felly. Mae 'na ffordd arall o sicrhau etholiad cyn diwedd y tymor penodol o bum mlynedd. Hwn yw'r un a ddefnyddiwyd gan Theresa May yn 2017 sef sicrhau cefnogaeth dwy ran o dair o aelodau seneddol i ddiddymiad cynnar. Mewn sefyllfa felly anodd iawn fyddai i unrhyw wrthblaid wrthwynebu'r cynnig. Yng ngeiriau Jacob Rees Mogg; "No Opposition can sensibly say that they would prefer a Government they oppose to continue in office, rather than having a chance to defeat them".

Mewn geiriau eraill pe bai Theresa May yn deisyfu etholiad fe fydd modd iddi alw un ond oes unrhyw un yn ei iawn bwyll yn credu y byddai Mrs May yn gwneud hynny yn sgil gambl drychinebus 2017?

Dyna oedd y rhesymeg wnaeth fy narbwyllo na fyddai 'na etholiad cyn ei iawn bryd. Erbyn hyn dydw i ddim mor siŵr.

Mae modd i seneddau ddisgyn yn ddarnau. Dyw hynny ddim yn digwydd yn aml ond mae'r peth yn bosib.

Y tro olaf i hynny ddigwydd oedd yn nyddiau olaf llywodraeth James Callaghan yn niwedd y saithdegau. Ar ôl misoedd yn dawnsio wrth ymyl y dibyn fe ddaeth y cwymp - cwymp wnaeth esgor ar oruchafiaeth wleidyddol Margaret Thatcher. Rydym yn agosáu at sefyllfa lle nad oes 'na fwyafrif seneddol o blaid unrhyw fersiwn o Brexit. Gyda Llafur yn gwrthod achub cam cyfaddawd y Llywodraeth mae'n bosib y bydd Mrs May yn wynebu dewis anodd, cwympo mas o'r Undeb Ewropeaidd yn y modd mwyaf anhrefnus posib, neu alw etholiad arall yn y gobaith bod y darnau'n disgyn i'w lle y tro hwn.

Dyw Dewi Llwyd a minnau ddim wedi dechrau naddu ein pensiliau eto - ond efallai'n wir y daw ni i'r fan honno yn y man. Daliwch eich hetiau.