Tywydd yn arwain at flwyddyn 'hanesyddol' i win Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn flwyddyn "hanesyddol" i'r diwydiant cynhyrchu gwin yng Nghymru yn ôl arbenigwyr, wedi wythnosau lawer o dywydd sych a chynnes.
Mae nifer o winllannoedd Cymreig yn gweld eu cnydau'n tyfu'n gynharach ac yn fwy eang nag ers blynyddoedd lawer.
Mae rhai arbenigwyr o fewn y diwydiant bwyd a diod yn credu bod newid ar droed o ran y defnydd o dir yng Nghymru os fydd yr hafau yn parhau i gynhesu.
Yn ôl Richard Wyn Huws, perchennog gwinllan Pant Du ym Mhenygroes dydi pethau erioed wedi bod cystal, gan ddisgrifio'r tywydd fel "rhodd arbennig gan natur".
Amgylchiadau 'perffaith'
"Be' sy'n bwysig i ni yn y winllan ydy faint o oriau o dymheredd sy' dros 18C 'da ni'n gallu ei gael," meddai Mr Huws.
"Ers dechrau Ebrill tan ganol mis Gorffennaf, 'da ni wedi cael 428 awr dros y tymheredd hwnnw. Y llynedd dim ond 270 o oriau gawson ni.
"'Da ni 'di teimlo'r gwres, 'da ni 'di gweld y caeau'n troi'n felyn, felly 'da ni'n gwybod ei bod hi'n flwyddyn hanesyddol ac arbennig."
Mae Mr Huws yn rhagweld "safon gwin 'da ni erioed wedi'i gael o'r blaen yng Nghymru".
"Be' maen nhw angen fwy na dim ydy'r gwres, yr haul a dim gwynt. Eleni mae 'di bod yn hollol berffaith ar gyfer hynny," meddai.
Os bydd y patrwm o hafau poeth yn parhau, mae Mr Huws yn credu y bydd mwy o fentro i'r diwydiant cynhyrchu gwin.
"Ar hyn o bryd mae 'na ryw 100 acer wedi cael ei blannu o ran grawnwin drwy Gymru gyfan, ond dwi'n siŵr mewn pum mlynedd efallai y bydd hynny wedi dyblu, hyd yn oed treblu, yn dibynnu ar y tywydd."
Cyfleoedd masnachol
Yn ôl yr ymgynghorydd bwyd a diod, Geraint Hughes, fe allai'r newid yn ein hinsawdd agor y drws i bob mathau o bosibiliadau yn y diwydiant.
"Mae pob mathau o bethau'n bosib. Dwi'n meddwl bod 'na ras ymlaen i'r person cynta' i dyfu te yng Nghymru'n fasnachol," meddai.
"Maen nhw eisoes yn gwneud hynny yn Yr Alban, felly 'does 'na ddim rheswm o ran hinsawdd na ddylwn ni allu tyfu te, ac efallai olewydd.
"Efo'r hinsawdd yn dod yn debycach i ogledd yr Eidal a De Ffrainc, yna mae'n agor y drws i gnydau fel 'na."