Annog pobl i ffwrdd o draeth ar arfordir Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy'r gwyliau'r haf, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn annog pobl i ffwrdd o draeth poblogaidd er mwyn ceisio diogelu arfordir Sir Benfro.
Mae disgwyl i tua 40,000 o bobl ymweld â'r traeth ym Mae Barafundle, dwbl faint sydd fel arfer yn mynd i draeth deheuol Broadhaven 2.6 milltir i ffwrdd.
Gobaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n gyfrifol am y traethau gan eu bod yn rhan o Ystâd Stagbwll, yw ceisio diogelu'r arfordir.
Fel rhan o hynny maen nhw wedi trefnu taith arfordirol ar gyfer theuluoedd.
'Lleoliad arbennig'
Drwy ymweld â thraeth Broadhaven yn hytrach na Barafundle, byddai'n lleihau'r difrod i lwybrau cerdded a byddai'r effaith ar fywyd gwyllt yn llai.
Dywedodd Rhian Sula o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Mae cymaint o Stâd Stagbwll i'w archwilio a'i fwynhau.
"Roeddem eisiau dangos y traethau sydd yn llai poblogaidd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn lleoliad arbennig i ymwelwyr fwynhau am flynyddoedd."