Ymddiheuriad i barti plu am drafferthion gwesty Lerpwl

  • Cyhoeddwyd
Y merched yn LepwlFfynhonnell y llun, Jenny Matulla Evans

Mae gwefan Booking.com wedi ymddiheuro i griw o ferched o'r gogledd orllewin ar ôl iddynt brofi trafferthion gyda'u llety yn Lerpwl.

Roedd y grŵp o 20 wedi archebu llety drwy'r wefan yn ôl ym mis Tachwedd ar gyfer parti plu.

Pan gyrhaeddon nhw'n safle daeth hi'n glir nad oedd y llety, The Loft, yn bodoli, a bod yr adeilad wedi cael ei werthu mewn ocsiwn pedwar mis yn gynharach ar ôl i'r perchennog gael ei wneud yn fethdalwr.

Yn ôl y merched dylai Booking.com fod yn ymwybodol o'r sefyllfa, a thynnu'r llety o'u gwefan yn gynt.

Dywedodd llefarydd ar ran Booking.com eu bod nhw'n "ymddiheuro'n fawr am unrhyw anghyfleustra".

Doedd y grŵp ddim ar eu colled gan nad oeddent wedi talu blaendal cyn y gwyliau, a llwyddon nhw i ganfod llety arall ar fyr rybudd.

Ffynhonnell y llun, Jenny Matulla Evans

'Lwcus iawn'

Un oedd yn rhan o'r parti plu oedd Jenny Matulla Evans, a ddywedodd eu bod nhw "methu â choelio'r peth" pan ddaeth y trafferthion i'r amlwg.

Yn ôl Ms Hughes nid eu parti nhw yw'r unig rai i brofi hyn, a bod "grwpiau mawr wedi cael yr un profiad", gydag un criw yn colli "bron i £3,000".

Ychwanegodd fod y criw yn "lwcus iawn" bod dim arian wedi ei dynnu o'r cyfrif ymlaen llaw.

Dywedodd Booking.com: "Ein nod ni fel cwmni yw sicrhau fod cwsmeriaid yn cael profiad pleserus wrth deithio.

"Ond yn yr achosion hynny pan fod trafferthion, mae ein tîm ar gael 24 awr y dydd i ddod o hyd i lety cystal os nad gwell."