Elis-Thomas: 'Angen gwneud mwy i hyrwyddo'r tywysogion'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fe fydd y llyfryn ar gael am ddim ym mhob safle sydd yn perthyn i Cadw

Mae angen gwneud mwy i hyrwyddo a dathlu hanes tywysogion ac arglwyddi Cymru, yn ôl y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas fod cestyll fel rhai Owain Glyndŵr a Llywelyn yn atgoffa'r genedl o'i "hanes a'i threftadaeth".

Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas fod "angen dathlu tywysogion Cymru yn fwy eang".

Mae ymddiriedolaeth Cadw wedi bod yn llunio'r llyfryn 'Cestyll y Tywysogion a'r Arglwyddi' er mwyn tynnu sylw at eu hanesion.

'Gwir gestyll Cymru'

Llynedd, dywedodd y gweinidog ei fod yn bwriadu hyrwyddo Cymru fel "tywysogaeth o fewn y Deyrnas Unedig" er mwyn denu mwy o ymwelwyr.

Bwriad y llyfryn, gafodd ei lansio yng Nghastell y Bere ddydd Mawrth, yw cyflwyno cestyll sydd â chysylltiad agos at arglwyddi a thywysogion Cymru, gan gynnwys cestyll sydd yng ngofal Cadw ac eraill sydd ar agor i'r cyhoedd.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas fod gan Gymru "rai o'r cestyll mwyaf ysblennydd a godidog yn y byd".

Ffynhonnell y llun, Barbara Fuller
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llyfryn yei lansio fore Mawrth yng Nghastell y Bere

"Fy ngobaith yw annog cynifer o bobl â phosib i fwynhau ymweld â'r cestyll hyn yng Nghymru a dysgu am ei harwyddocâd i'r Gymru rydym yn byw ynddi heddiw, a hynny drwy gyfrwng y llyfryn sy'n cael ei lansio heddiw a thrwy welliannau yn y dyfodol," meddai.

Mae'r llyfryn yn cynnwys 24 o gestyll, abatai a safleoedd hanesyddol ac fe fydd ar gael o holl safleoedd Cadw.

Ychwanegodd y gweinidog: "Gwir gestyll Cymru i mi yw'r rheiny a adeiladwyd gan Gymry enwog y gorffennol - Llywelyn, yr Arglwydd Rhys a Glyndŵr ymhlith eraill.

"Rwyf wedi bod yn benderfynol o hyrwyddo'r cestyll hyn a'u harwyddocâd i'n hanes a'n diwylliant yn well."