Cyflwyno Medal Daniel Owen fydd prif seremoni ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Gwobrwyo nofelydd fydd y brif seremoni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ddydd Mawrth a gobeithir y bydd teilyngdod eleni wedi i'r wobr gael ei hatal yn Eisteddfod Ynys Môn y llynedd.
Yn ogystal ag ennill Medal Goffa Daniel Owen, bydd y buddugol yn ennill £5,000 - mae'r wobr yn cael ei rhoi gan CBAC i nodi pen-blwydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru yn 70 oed.
Mae'r gystadleuaeth yn gofyn am nofel gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Y beirniaid eleni yw Meinir Pierce Jones, Bet Jones a Gareth Miles.
Fe enillodd Bet Jones y fedal yn 2013 am ei nofel Craciau.
Doedd yna ddim teilyngdod yn y gystadleuaeth y llynedd er i'r gystadleuaeth ddenu 13 nofel - y nifer uchaf i'w derbyn yn y gystadleuaeth ers ei sefydlu.
Yn ei beirniadaeth dywedodd un o'r beirniaid Bethan Gwanas: "Yn anffodus, ychydig iawn o hud y nofelydd a brofais eleni.
"Roedd yma syniadau diddorol ac ambell gymeriad hynod afaelgar, ond roedd blas drafft gyntaf ar lawer gormod o'r cyfrolau, ac er bod ysgrifennu o leiaf 50,000 o eiriau yn gofyn am waith caled, mae'r gwaith go iawn yn y caboli, y cynilo, a'r hunan-olygu."
Igam Ogam o waith Ifan Morgan Jones oedd y nofel a enillodd y wobr y tro diwethaf i'r brifwyl ymweld â Chaerdydd yn 2008.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017