Cyngor Ceredigion i ystyried adleoli Theatr Felinfach

  • Cyhoeddwyd
theatr felinfachFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theatr Felifach wedi ei lleoli tua hanner ffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud y byddan nhw'n ymchwilio ymhellach i'r posibilrwydd o adleoli Theatr Felinfach i adeilad newydd.

Byddai gwella'r adeilad presennol a'i adnoddau yn costio oddeutu £1.6m.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisoes wedi clustnodi £575,000 tuag at brosiect datblygu Theatr Felinfach.

Yn ôl astudiaeth dichonolrwydd i'r safle presennol, mae diffyg technoleg ac adnoddau yn ei gwneud hi'n anodd denu cynyrchiadau mawr i berfformio yn y theatr.

'Rebel o theatr'

Ar ddechrau'r 1970au, cafodd y digrifwr Ifan Gruffudd flas ar berfformio ar lwyfan Theatr Felinfach.

Mae wedi actio ar lwyfan y theatr yn rheolaidd ers hynny, a byddai'n drist ganddo weld yr adeilad yn wag.

"Mae hi'n rebel o theatr, mewn sied yng nghanol cae. Dyna pam bod hi wedi goroesi'r holl flynyddoedd yma," meddai.

"Mae'r syniad o symud i adeilad newydd, pert, yn iawn. Ond beth sydd i ddweud y bydd y theatr ei hun yn llwyddiannus wedyn?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r digrifwr Ifan Tregaron wedi perfformio sawl gwaith yn Theatr Felinfach dros y blynyddoedd

Dywedodd Huw Davies, cadeirydd cyfeillion Theatr Felinfach: "Mae 'na sentiment i'r adeilad, ac mae'n safle eiconig i'r ardal yma.

"Beth sydd angen ei sicrhau yw bod ethos y lle yn cael ei gynnal mewn adeilad newydd a bod gwaddol i'w deimlo o fewn y gymuned yma."

Mae Cyngor Ceredigion yn cynnig un opsiwn fyddai'n golygu cyfuno Theatr Felinfach gyda safle ysgol ardal newydd Dyffryn Aeron.

Er hynny, does dim cynlluniau pendant wedi eu cymeradwyo ar gyfer yr ysgol eto.

'Edrych i'r dyfodol'

Mae disgwyl i Gyngor Ceredigion drafod y posibilrwydd o greu ysgol ardal newydd, gyda lle i 210 o ddisgyblion, yn yr hydref. Byddai bwrw ymlaen gyda'r cynllun yn golygu cau pedair ysgol gynradd a'u cyfuno ar un safle.

Dywedodd y cynghorydd Catherine Hughes, yr aelod cabinet â chyfrifoldeb dros ddiwylliant: "Mae Theatr Felinfach wedi bod yn rhan bwysig o galon ddiwylliannol Ceredigion am ddegawdau ac mae'n cynnig cyfleoedd gwych mewn theatr gymunedol a chynnal cynyrchiadau cyfrwng Cymraeg.

"Mae'n bwysig ein bod yn edrych i'r dyfodol i ystyried sut gallwn gefnogi ac adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud yn y Theatr.

"Mae penderfyniad y cabinet yn galluogi'r cyngor i ystyried ymhellach sut gallwn wireddu hyn."