Gohirio penderfyniad ar ddyfodol ysgolion Dyffryn Aeron
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi gohirio penderfyniad ar ad-drefnu ysgolion cynradd yn Nyffryn Aeron.
Roedd posibilrwydd y byddai pedair ysgol yn cau, ond mae'r awdurdod yn mynd i aros tan ddaw mwy o wybodaeth i law am gynlluniau ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Ellen ap Gwynn, ei bod hi'n "amhosib dod i benderfyniad" tan y bydd manylion ariannu ar gael, ac y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud cyhoeddiad ar ysgolion gwledig.
Clywodd y cyfarfod ei bod hi'n annhebygol y byddai adroddiad diwygiedig yn cael ei gyflwyno i'r cyngor cyn yr etholiad nesaf ym mis Mai 2017.
Ysgol newydd
O dan y cynllun, byddai ysgolion Cilcennin, Ciliau Parc, Dihewyd a Felin-fach yn cau, gydag un ysgol newydd yn cael ei hadeiladu i'r ardal ar gampws Theatr Felinfach.
Mewn cyfarfod ym mis Mai, penderfynodd cynghorwyr mai dyma'r opsiwn yr oedden nhw'n ei ffafrio, ac roedd disgwyl i'r cabinet gymeradwyo'r cynllun yma ddydd Mawrth.
Dywedodd adroddiad gan swyddogion y byddai hyn hefyd yn sicrhau dyfodol y theatr, sydd ar hyn o bryd yn costio £256,000 y flwyddyn i'w chynnal.
Cyfanswm o 177 o blant sydd yn mynychu'r pedair ysgol.
Mae 57 o blant yn derbyn eu haddysg yn Ysgol Ciliau Parc, 56 yn Ysgol Felin-fach, 35 yn Ysgol Dihewyd a 29 yn Ysgol Cilcennin.
Yn ôl y cyngor, byddai'r ad-drefnu yn gostwng nifer y llefydd gwag, yn lleihau cost yr addysg fesul disgybl ac yn darparu'r cyfleusterau diweddaraf.
Ond mae cefnogwyr yr ysgolion yn poeni beth fyddai effaith cau ar eu cymunedau.
'Ansicrwydd yn parhau'
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r ansicrwydd am ddyfodol yr ysgolion yn parhau er i gyfarfod Cabinet Ceredigion benderfynu gohirio'r penderfyniad.
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg y Gymdeithas: "Roedd yr aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc ac Arweinydd y Cyngor yn bendant fod cynlluniau ar gyfer cau pedair ysgol a sefydlu ysgol ardal ar safle campws Felinfach yn dal ar y bwrdd, ac y byddai ail-drafod yn dilyn yr etholiadau flwyddyn nesaf.
"Er bod sicrwydd i ysgolion am y tro, mae cysgod a bygythiad o hyd a'r ansicrwydd yn parhau i'r ysgolion a'r cymunedau."
"Nododd aelodau'r Cabinet fod angen sicrwydd ariannol ac aros i glywed cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Addysg am ysgolion gwledig wythnos nesaf cyn penderfynu. Yn ogystal nodwyd nad oedd amser gan y weinyddiaeth bresennol i weithredu'r holl broses.
Ychwanegodd: "Bydd cyhoeddiad gan Kirsty Williams am ysgolion gwledig wythnos nesaf ond gobeithio na fydd pendantrwydd Cyngor Ceredigion i fwrw 'mlaen â'u cynllun ar draul addysg a lles plant a chymunedau. "
Bydd Kirsty Williams yn gwneud datganiad ar ysgolion gwledig yn y Cynulliad ddydd Mawrth, 15 Tachwedd.