Eisteddfod: Cyhoeddi enillwyr y celfyddydau gweledol

  • Cyhoeddwyd
Plentyn A
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nerea Martinez de Lecea yn creu delweddau digidol gyda meddalwedd Photoshop

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enillwyr tair o wobrau ym maes celfyddydau gweledol ar ddiwrnod cyntaf y Brifwyl yng Nghaerdydd.

Nerea Martinez de Lecea o'r Rhondda sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain am ei gwaith, 'Plentyn A'.

Bydd Ms Martinez de Lecea, sy'n creu delweddau digidol gyda meddalwedd Photoshop, hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £5,000.

Disgrifiad o’r llun,

Nerea Martinez de Lecea yn derbyn ei gwobr ar lwyfan y brifwyl

Mae ei gwaith yn cynnwys ffotograffiaeth, fideo, gwaith gosod a lluniadu ac, yn fwy diweddar, paentio digidol.

Dyw'r artist o Dreorci ddim yn ddieithr i'r Eisteddfod Genedlaethol, wedi iddi ennill gwobr ariannol yn yr adran Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Blaenau Gwent yn 2010, ac mae wedi arddangos yn Y Lle Celf ym Mro Morgannwg 2012 a Maldwyn 2015 ers hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Zoe Preece sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio am ei gwaith â phorslen a phren

Disgrifiad o’r llun,

Zoe Preece

Artist cerameg o Benarth, Zoe Preece sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio am ei gwaith 'Presenoldeb Materol'.

Bydd Ms Preece, sy'n gweithio â phorslen a phren, hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £5,000.

Dyw hi ddim yn ddieithr i'r Brifwyl chwaith - roedd ganddi grochenwaith yn Arddangosfa Agored Wrecsam 2011, Sir Gâr 2014 a Maldwyn 2015.

Dyfarnwyd Gwobr Bwrcasu Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru i Ms Preece hefyd, a bydd ei gwaith yn cael ei ychwanegu at gasgliad Amgueddfa Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Gweni Llwyd Ysgoloriaeth Artist Ifanc y Brifwyl am gyfres o ffilmiau byrion

Gweni Llwyd, sy'n 23 oed o Ddyffryn Nantlle, yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Bydd Ms Llwyd, sydd bellach yn byw yn y brifddinas yn derbyn yr ysgoloriaeth am ei chyfres o ffilmiau byrion - 'Gro Chwipio', 'O.S.B', 'Llwch' ac 'Artecs'.

Bydd yr artist delweddau symudol yn derbyn gwobr ariannol o £1,500 yn ogystal â'r ysgoloriaeth.

Amcan yr ysgoloriaeth yw galluogi'r enillydd i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf neu fynychu dosbarthiadau meistr, a bwriad Ms Llwyd yw ei ddefnyddio i ddilyn cwrs er mwyn datblygu ei sgiliau wrth ymdrin â delweddau symudol.

Cyfarwyddwr Artes Mundi, Karen MacKinnon, Ingrid Murphy o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a'r artist berfformans Marc Rees oedd y beirniaid yn y tair cystadleuaeth.

Bydd gwaith yr holl enillwyr i'w weld yn Y Lle Celf yn y Cynulliad trwy gydol yr wythnos.