Cyhoeddi enillwyr gwobrau pensaernïaeth yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Gwaith Bethan Scorey - Castell HarlechFfynhonnell y llun, Bethan Scorey

Mae enillwyr gwobrau pensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cael eu cyhoeddi.

Bethan Scorey, 23 oed o Gaerdydd, yw enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth gwerth £1,500, gyda'i hastudiaeth o swyddogaeth cestyll yn niwylliant Cymru.

Cafodd y Fedal Aur am Bensaernïaeth i ddylunwyr ei chyflwyno i KKE Architects ar gyfer eu gwaith ar Hosbis Dewi Sant.

Dyfarnwyd Plac er Teilyngdod 2018, gwobr a roddir i brosiectau llai o ansawdd dylunio uchel, i siop, caffi a hwb cymdeithasol Cletwr, Tre'r-ddôl gan benseiri George a Tomos, Machynlleth.

Ysgoloriaeth Bensaernïaeth yr Eisteddfod

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Amcan yr ysgoloriaeth, sy'n agored i'r sawl dan 25, yw rhoi cyfle i'r pensaer ifanc mwyaf addawol i ehangu ei ymwybyddiaeth o bensaernïaeth greadigol.

Dyfarnwyd ysgoloriaeth eleni, sy'n cael cefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru, i Bethan Scorey, 23 oed, o Gaerdydd.

Ym mis Medi, bydd Ms Scorey yn dilyn cwrs MA mewn Hanes Adeiladu ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Dehongliad cyfoes o gestyll canoloesol Edward I oedd gan Ms Scorey, gyda'r bwriad o ddangos sut "gall muriau a oedd unwaith yn rhannu cymunedau ddod yn furiau sy'n dwyn tirwedd a phobl ynghyd".

Yn ôl y pensaer Paul Harries, roedd y cais "yn rhagorol".

"Cafodd ei chynnig, a oedd wedi'i seilio ar gynllun tai, ei gyflwyno'n hyfryd gyda lluniadau â llaw a phrintiau hardd yn ategu lluniadau pensaernïol mwy confensiynol."

Ychwanegodd Mr Harries ei bod hi'n "anarferol i rywun mor ifanc fod wedi datblygu athroniaeth mor glir".

Medal Aur am Bensaernïaeth i ddylunwyr

Ffynhonnell y llun, Alamy

Cafodd y Fedal Aur ei chyflwyno i KKE Architects, Caerwrangon, am eu gwaith ar Hosbis Dewi Sant, ger Casnewydd.

Roedd pum prosiect adeiladu ar y rhestr fer, sy'n cael cefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru, ond llwyddodd penseiri KKE i "osod meincnod ar gyfer adeiladau gofal iechyd y dyfodol" yn ôl y beirniaid.

Mae Hosbis Dewi Sant yn darparu 15 ystafell wely, pob un â chyfleusterau en-suite ynghyd â swyddfeydd clinigol, ystafelloedd ymolchi a mannau cymdeithasu.

Dywedodd y detholwr Alun Jones o Dow Jones Architects fod y cynllun buddugol yn "ail-sefydlu gwir ystyr gofal".

Ffynhonnell y llun, James Morris

"O'r man cyrraedd cyntaf, hyd at fynd i mewn i'r adeilad a symud drwy'r gofodau sydd wedi'u cysylltu'n ddi-dor, ceir teimlad isganfyddol o dawelwch a synnwyr amlwg o ofal.

"Rhoddwyd ystyriaeth o'r newydd i hydeimledd cryf, cytgord y lliwiau ac angen pob claf. Canlyniad hyn yw adlewyrchiad o weledigaeth gref cleient goleuedig, a gallu pensaer i ymateb i hyn mewn modd ystyrlon a hardd."

Plac Teilyngdod

Ffynhonnell y llun, James Morris

Dyfarnwyd Plac er Teilyngdod 2018 i siop, caffi a hwb cymdeithasol Cletwr, Tre'r-ddôl gan benseiri George a Tomos, Machynlleth

Rhoddir y plac i brosiectau llai o ansawdd dylunio uchel, gwerth hyd at £750,000, ac roedd y cynllun buddugol yn "rhagori yn nhermau ei ansawdd pensaernïol" yn ôl y beirniaid.

Dywedodd y detholwr Kay Hyde o benseiri Hyde a Hyde: "Wrth gyrraedd cyfleusterau newydd Cletwr cewch werddon fechan, wedi'i manylu'n ofalus gyda phalet cynnil o ddeunyddiau sy'n llewyrchu egni cadarnhaol o'i mewn.

"Mae hwn yn adeilad hyfryd a gellir dadlau mai ei unig anfantais yw ei boblogrwydd ei hun.".

Dywedodd Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru: "Mae dyfarniadau eleni yn amlygu gwerth rhagoriaeth bensaernïol yn ein bywydau a'n profiadau bob dydd.

"Maen nhw'n dangos sut mae dylunio da yn creu amgylcheddau sy'n cynnig llonyddwch a noddfa pan rydym ni ar ein mwyaf gwan ac yn dod ag enydau o lawenydd yn ein hymwneud beunyddiol â'r byd."

Bydd y pum prosiect a gyrhaeddodd rhestr fer y Fedal Aur yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 4-11 Awst.