Mansfield 3-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd Casnewydd ddechrau anodd i'r tymor, yn colli'n drwm oddi cartref ym Mansfield.
Aeth Tyler Walker â'r tîm cartref ar y blaen wedi 12 munud.
Llwyddodd golwr Casnewydd, Joe Day, i wneud sawl arbediad pwysig, ond methodd atal peniad Otis Khan wedi 56 munud.
Lai na 10 munud yn ddiweddarach, llwyddodd Khan i ddiogelu'r triphwynt i Mansfield gydag ergyd o 25 llath.
Methiant fu ymdrechion Casnewydd i daro'n ôl, er gwaethaf naw munud o amser ychwanegol, wedi i ddyfarnwr cynorthwyol gael ei anafu.
'Rhaid ymateb'
Dywedodd rheolwr Casnewydd, Michael Flynn: "Ro'n i'n meddwl ein bod wedi chwarae'n dda yn yr hanner cyntaf. Roedd yna gyfnod o 20 munud yn yr ail hanner pan gollon ni'r frwydr.
"Fe wnaethon ni hi'n rhy hawdd iddyn nhw sgorio.
"Roedden nhw'n gryfach na ni. Rhaid i chi gydnbaod cryfder y gwrthwynebwyr weithiau. Ond rhaid i ni ymateb nawr."