Y Lle Celf yn y Senedd: 'O'r cywrain i'r cyfareddol'
- Cyhoeddwyd
Rebecca Hardy-Griffith, cydlynydd celfyddydau Galeri, Caernarfon sy'n rhannu ei hymateb i gynnwys Y Lle Celf, sydd yn y Senedd eleni fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol wahanol ac arbrofol.
Mae hi'n creu gwaith ei hun dan yr enw Rebecca F. Hardy ac yn aelod o CARN - grŵp ar gyfer artistiaid a phobl greadigol yn ardal Caernarfon. Dyma ei hymweliad cyntaf â chartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd Y Lle Celf hir ddisgwyliedig eleni wedi creu cynnwrf cyn i'r arddangosfa agor.
Roedd yn rhaid i'r trefnwyr oresgyn rhwystrau ychwanegol oherwydd y lleoliad dadleuol a chanllawiau diogelwch llym y Senedd, tra bod rhai aelodau pwyllgor wedi codi cwestiynau ynghylch pwysigrwydd cael staff diogelwch dwyieithog.
Ges i ddim trafferthion o gwbl o orfod mynd trwy system debyg i faes awyr wrth gyrraedd. Unwaith roeddwn yn yr adeilad, ac ar ôl cael fy ysgubo gan y festiau atal bwledi a'r bensaernïaeth, y petha' cynta' i mi weld oedd gwaith André Stitt o Gaerdydd.
Mae André'n archwilio'r berthynas rhwng paentiadau a mewnosodiadau ers dros 10 mlynedd, a'r berthynas rhwng yr arwynebedd fflat a'r ffurf tri dimensiwn.
Trwy chwarae a phryfocio gyda lliw a gwead yn ei wrthrychau pensaernïol a cherfluniol, mae'n eich hudo i gerdded ymhellach i'r gofod a mynd i fyny'r grisiau am olwg bird's eye o'r darn 'Model synthetig ar gyfer economi ol-gyfalafol mewn bydysawd cyfochrog'.
Rwy'n cael fy nharo - a 'nrysu ychydig - wedyn gan gwmwl hydrogen atomig pren syfrdanol ond gormesol, sy'n hawlio fy sylw oddi ar waith serameg crefftus Jin Eui Kim a Steve Buck.
Mae siapiau trawsnewidiol creaduriaid pluog Anna Lewis o'i chasgliad 'Mae hi'n dangos ei hun' yn dal fy llygaid wedyn, yn ogystal â gwaith 'Arfau mawr' Ray Church. Ni alla'i beidio gwenu o weld ei ddychan gwleidyddol clyfar.
Rwy'n symud i'r islawr ac yn cydymffurfio ag arwydd 'safwch i'r dde' fel petawn i'n teithio ar drên i'r gwaith! Ond wrth sefyll o flaen gwaith enillydd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio, Zoe Preece mae'r waliau gwyn cyfarwydd yn ail-danio'r ymennydd ac rwy'n teimlo'n gyfforddus eto mewn gofod anghyfarwydd.
'Cywrain' yw disgrifiad trefnwyr Y Lle Celf o waith Zoe a dyna ydi'r gair wrth iddi ddyrchafu'r cartrefol a'r di-nod i greu gwrthrychau hardd. Mae symlrwydd y porslen glân, croyw a sglein y diferu gwydrin 'Archif hiraeth' yn syfrdanol.
Mae cen (lichen) cylchdroadol a hen orsaf radar yn ffilm Sean Vicary a chlecian y sain radio yn codi braw ac yn lleddfu.
Yn gyferbyniad i hynny mae strwythur gosmig carreg fellt fetel neon Jennifer Taylor gyda bod crwn yn plygu'i goesau yn y canol.
Mae symudiadau ailadroddus y pelenni a'r tiwbiau'n curo a dirgrynu yn arallfydol ond cyfarwydd, fel claddgelloedd siambr a meini Neolithig. Mae'n eich cyfareddau a'ch drysu.
Mae stribyn o goch yn ymddangos ar sgrîn ac yn fy hudo. Mae delweddau sinematig moethus Gethin Wyn Jones yn 'Marlboro coch' ac 'Angerdd' yn eich gorfodi i ailystyried delweddau masnachol cyfalafol adnabyddus. Ac mae tryloywder a haenau'r paent ar ddur gloyw ym mhortreadau Casper White yn gyfareddol.
Ac fe darodd baentiadau Zena Blackwell dant. Mae teimlad cyfarwydd i'r lliwiau beiddgar a nodweddion cryf y wynebau a'r gwisgoedd plentyn-yn-gwisgo-i-fyny.
Mae'r olwg benderfynol ar y wyneb ar ddarn 'Di-deitl' yn mynd â fi'n ôl i'r effeithiau corfforol a seicolegol bod yn fam newydd.
Mae detholwyr a thîm dylunio arddangosfa eleni wedi bod yn ddawnus wrth ddefnyddio'r gofod posib ar gyfer celf fideo a sain a defnyddio'r waliau i'r eithaf gyda phaentiadau.
Oherwydd y gofod mae diffyg gwaith cerfluniol eleni ond mae gwaith Kelly Best, 'Vector' yn ychwanegiad buddiol yng nghanol y lluniau olew ac acrylig.
Unwaith eto, dydy'r Lle Celf ddim yn siomi gan fynd â ni ar daith sy'n procio'r holl synhwyrau.
O anwesu mainc pinc gwlanog Gweni Llwyd - enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc y Brifwyl - tra'n gwylio'i ffilm fer 'Llwch', gwrando ar ddarn sain musique concrète Glyn Roberts, 'Pregeth' i baentiadau digidol cynnil ond anesmwyth enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Nerea Martinez de Lecea.
Mae Y Lle Celf yn ymgorfforiad o'r sîn celf Cymreig ac yn rhan hanfodol o raglen yr Eisteddfod, boed yn eich ysbrydoli, yn eich cynddeiriogi, yn ysgogi sgwrs fewnol neu ddim ond yn eich drysu.
Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr a'r beirniaid Karen MacKinnon, Marc Rees ac Ingrid Murphy.
'Ffrwydrad o Notting Hill'
Dyma droi at arddangosfa arbennig eleni, Carnifal y Môr - ffrwydrad o Notting Hill ar strydoedd y Bae, yn llawn lliw a goleuadau neon, dawnswyr a drymio wrth i ddraig goch a chreaduriaid morol arwain gorymdaith o Ganolfan y Mileniwm drwy'r maes heibio'r Senedd at lan y dŵr.
Sgerbydau gwyrdd neon anferthol a gwylanod yn dawnsio ymhlith y dorf wrth i jetiau o ddŵr gael eu chwistrellu i'r awyr.
Cafodd delweddau'r artist Megan Broadmeadow eu dal yn y dafnau dŵr gan symud yn ddiymdrech mewn niwlen o liw a golau.
Cafodd y gwaith ei ddyrchafu gan guriadau lleddfol a synau trydanol Gruff Rhys ac fe wnaeth yr holl beth gyfareddu a phlesio'r dorf. Gwych!
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2018
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018
- Cyhoeddwyd4 Awst 2018