Lansio apêl ar faes yr Eisteddfod i 'barhau â gwaith' Merêd

  • Cyhoeddwyd
Dr Meredydd EvansFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Evans, a oedd yn cael ei adnabod fel Merêd, yn un o sylfaenwyr gwreiddiol Ymddiriedolaeth William Salesbury

I ddathlu canmlwyddiant geni Dr Meredydd Evans, mae Ymddiriedolaeth William Salesbury yn lansio apêl ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol i gasglu £10,000 y flwyddyn i sicrhau parhad ei weledigaeth.

Mae arian y gronfa yn cael ei ddefnyddio i gynnig ysgoloriaethau - Ysgoloriaeth William Salesbury - i fyfyrwyr sy'n bwriadu dilyn eu cwrs cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd yr ymddiriedolwyr fod lansio'r apêl yn gyfle i "gerdded yn ôl ei droed, dathlu ei rodd a pharhau â'i waith".

Bu farw Dr Evans ar 21 Chwefror 2015 yn 95 oed.

Roedd Dr Evans, a oedd yn cael ei adnabod fel Merêd, yn un o sylfaenwyr gwreiddiol Ymddiriedolaeth William Salesbury, a chafodd ei sefydlu yn 2012 gyda'r bwriad o gynnig cefnogaeth ymarferol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ers hynny, mae'r ymddiriedolaeth wedi rhoi ysgoloriaethau gwerth £5,000 yr un i chwe myfyriwr sy'n astudio'u cyrsiau gradd yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r ymddiriedolaeth bellach yn awyddus i gasglu o leiaf £10,000 y flwyddyn am y pum mlynedd nesaf.

'Rhaid chwyddo'r coffre'

Dywedodd Ann Beynon ar ran yr ymddiriedolwyr bod Merêd yn "ddyn unigryw".

"Parhad a ffyniant iaith a diwylliant Cymru oedd ei brif genhadaeth, gan sefydlu Ymddiriedolaeth William Salesbury yn 2012," meddai.

"Nid oedd llaesu dwylo yn perthyn i Merêd a dyma ein cyfle ni nawr i gerdded yn ôl ei droed, dathlu ei rodd a pharhau â'i waith.

"Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid chwyddo'r coffre."

Ychwanegodd Dafydd Iwan, sydd hefyd yn un o'r ymddiriedolwyr bod yr apêl at "bawb sy'n cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg ac sydd am weld y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn llwyddo".

Dywedodd: "Mae Cronfa Genedlaethol William Salesbury yn gyfle i bob un ohonom fod yn rhan o'r ymdrech, a gwireddu un o freuddwydion clodwiw y dyn ei hun."

Bydd yr apêl yn cael ei lansio ddydd Mercher ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.