Sefydlu gwobr er cof am Dr Meredydd Evans

  • Cyhoeddwyd
Dr Meredydd Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dr Meredydd Evans, oedd yn cael ei nabod fel Merêd, ym mis Chwefror

Mae gwobr wedi ei sefydlu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn enw Dr Meredydd Evans er cof am ei arweinyddiaeth yn yr ymgyrch i sefydlu'r coleg.

Fe fydd Gwobr Merêd yn cael ei ddyfarnu yn flynyddol i gydnabod cyfraniad myfyriwr i fywyd a diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol ac yn ehangach.

Bu farw Dr Evans, oedd yn cael ei nabod fel Merêd, ym mis Chwefror yn 95 mlwydd oed.

Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru, fel perfformiwr, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith. Roedd hefyd yn gefnogwr brwd i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn llywydd cyfeillion y coleg.

Mae pob myfyriwr sy'n aelod o'r coleg yn gymwys i gael eu henwebu ar gyfer y wobr, ac nid cyflawniad academaidd yw prif ffocws y wobr hon, ond agweddau eraill sy'n allweddol i fywyd myfyrwyr.

'Braint ei adnabod'

Dywedodd prif weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Ioan Matthews: "Merêd oedd un o brif gefnogwyr y Coleg Cymraeg a braint oedd cael ei adnabod a derbyn ei anogaeth cyson i'n gwaith ni.

"Mae'n briodol felly ein bod yn sefydlu'r wobr hon er cof amdano ac mae'r coleg yn ddyledus i deulu Merêd am eu cefnogaeth i'r wobr hon, ac hefyd yn ddiolchgar am y rhodd hael gan un o'i gydnabod sydd wedi galluogi'r coleg i'w sefydlu."

Mae'r coleg yn gwahodd enwebiadau cyfrinachol i gael eu gyrru drwy ddychwelyd y ffurflen sydd wedi ei gosod ar eu gwefan, dolen allanol. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 19 Mehefin a'r bwriad yw cyflwyno'r wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.