Enillydd The Voice Kids: Canu i oresgyn swildod

  • Cyhoeddwyd

Mae dal mewn cysylltiad â'r gantores Pixie Lott, welodd ei fam yn mynd yn 'nuts' pan welodd hi Kylie, a fe yw'r canwr ifanc gorau ym Mhrydain...yn ôl gwylwyr rhaglen The Voice Kids.

Ond mae Daniel Davies, bachgen ifanc 14 oed o Trallwn, Pontypridd yn cyfaddef fod e'n swil a mewnblyg ac yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i'r ysgol i ddatblygu ei dalentau cerddorol ymhellach.

Disgrifiad o’r llun,

Daniel cefn llwyfan gyda'r fentor, y gantores Pixie Lott

Wyt ti wastad wedi bod yn berfformiwr?

Dim o gwbl. Os rhywbeth fydden ni'n dweud bod fi'n swil ac yn eithaf mewnblyg. Ond ddechreuais i berfformio ym mlwyddyn 6 ysgol gynradd mewn cyngherddau ysgol ac yn y blaen, ac yn ara' deg dros y blynyddoedd, datblygodd fy hyder i'r pwynt lle roedden yn barod i roi cynnig ar gael clyweliad ar gyfer The Voice Kids.

Beth wyt ti'n hoffi fwyaf am berfformio?

Rwy wrth fy modd o flaen cynulleidfa ac wrth fy modd bod ar y llwyfan gyda phawb yn gweiddi a chlapio. Rwy'n credu bod fi'n hoffi'r adrenaline. Mae perfformio i fi fel mynd ar roller coaster really mawr a'r teimlad cyn perfformio yn debyg iawn i'r buzz chi'n cael wrth fynd ar roller coaster.

Ond fel bod ar roller coaster, y disgwyl a'r ofn wrth aros eich tro sydd waethaf...Ond pan chi arno, mae'n rhoi boddhad mawr i chi. Wel i mi mae hynny union fel disgwyl perfformio. Ydw, rwy'n mynd yn nerfus, ond mae'r cyfan yn dod i ben pan fi'n camu ar y llwyfan ac wedyn mae'r adrenaline yn gwneud ei waith.

Disgrifiad o’r llun,

Daniel yn eistedd yn sedd y beirniad

Felly oedd ymddangos ar rhaglenni byw The Voice Kids union fel perfformio mewn cyngerdd ysgol?

Wel, mi roeddwn ni'n nerfus iawn cyn y rhaglenni byw. Ond roedd pawb o'm cwmpas yn nerfus hefyd...wnaeth fi dipyn yn fwy nerfus. A dwi ddim jest yn son am y perfformwyr eraill, ond roedd y pobl tu ôl llwyfan, y technegwyr...pawb yn eithaf pryderus oherwydd bod ni'n darlledu'n fyw!

Ond eto, y disgwyl o flaen llaw a'r aros i fynd arno oedd waethaf. Unwaith gamais ar y llwyfan, Phew! Roedd hi'n rhyddhad a wnes i ei fwynhau a'r nerfau'n diflannu.

Pixie Lott oedd dy fentor di, roedd hi'n edrych fel bod y ddau ohonoch chi'n dod ymlaen yn dda iawn?

Erbyn hyn rwy'n teimlo bod ni'n ffrindiau da iawn. Wir, mae hi mor neis, ac nid dim ond pan mae'r camera ymlaen, ond mae hi'n neis drwy'r amser. Fi wedi bod i ambell i ddigwyddiad gyda hi ac aethon ni mas am ginio rhywbryd ac mae hi jest mor neis a chroesawgar drwy'r amser.

Sylwais fod Kylie Minogue yn perfformio ar y rhaglen olaf, wnes di gyfarfod â hi?

Na, dim really. Basiais i hi yn y coridor, ond wnaeth mam ecseitio'n llwyr a chodi llaw a gwenu arni, a wnaeth hi godi llaw a gwenu yn ôl. Ond mae'n really fach...ac yn fyr.

Ond ar y rhaglen, roedden nhw'n cadw'r cystadleuwyr ar wahân i'r perfformwyr ar y cyfan fel bod ni'n medru ymlacio heb ddim byd i dynnu ein sylw oddi ar ein perfformiad.

Felly wyt ti wedi ennill £30,000 a gwyliau yn Disneyland Paris, ond beth sydd nesa i ti?

Fi wedi cael ambell i gynnig i ganu mewn ambell i ddigwyddiad, ac mae'n Instagram a'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi chwyddo tipyn, ond fi'n credu gwna'i ddefnyddio'r arian i helpu mi i ddysgu fod yn gerddor gwell.

Rwy'n bwriadu ail gydio mewn gwersi piano a dysgu mwy am gerddoriaeth a thechnegau 'sgrifennu caneuon.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mariah Carey

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mariah Carey

Fyddet ti'n hoffi bod yn gerddor llawn amser?

Hoffwn ni fod yn ganwr, ond mae pethau eraill hoffwn i wneud hefyd, felly hyd yn oed os na fydd y canu'n gweithio mas, dim ots.

Dweud y gwir, pan wnes i roi cais mewn ar gyfer The Voice Kids, doedden ni ddim yn disgwyl byddai dim byd fel hyn yn digwydd...o gwbl!

Doedden ni ddim yn disgwyl mynd trwy'r clyweliadau cyntaf yn yr Holiday Inn yng Nghaerdydd, heb son am fynd drwy glyweliadau'r blinds ar y rhaglen ac yn sicr ddim i'r rownd derfynol. Felly, mae pob dim ers y clyweliad cyntaf 'na wedi bod yn fonws!

Disgrifiad o’r llun,

"Unwaith gamais ar y llwyfan, Phew! Roedd hi'n rhyddhad a wnes i ei fwynhau a'r nerfau'n diflannu."