Diwedd Haf
- Cyhoeddwyd
Bant a ni eto, felly. I'r graddau y bu yna wyliau haf yn y byd gwleidyddol eleni maen nhw ar ben.
Y digwyddiad cyntaf yn y dyddiadur yw cyhoeddi enw arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig neu arweinydd newydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad. Mae natur y swydd a'r teitl yn amrywio gan ddibynnu â phwy y'ch chi'n siarad ar y pryd.
Efallai y dylai'r deiliad newydd ystyried sortio hynny mas yn flaenoriaeth!
Fe ddaw'r cyhoeddiad hwnnw yfory ac ymddengys taw'r Davies gwrywaidd sydd â'i drwyn ar y blaen.
Mae'n rhaid mi gyfaddef nad wyf yn cyffroi rhyw lawer ynghylch yr ornest. Mae Paul a Suzy Davies ill dau yn bobol abl a hoffus ond dyw'r naill na'r llall yn debyg o roi'r byd ar dân.
Megis cychwyn mae ras arweinydd Plaid Cymru gyda'r hystingau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd. Mae hon yn ornest fwy diddorol fi'n meddwl gan fod 'na wahaniaethau syniadol a gwleidyddol go iawn rhwng yr ymgeiswyr.
A minnau wedi bod bant dros yr haf dydw i ddim eto wedi gallu synhwyro sut mae pethau'n debyg o fynd. Rwy'n amau mai Leanne Wood fydd ar y blaen ar ddiwedd y rownd gyntaf o gyfri ond y gallasai hi fod mewn trafferth wrth i bleidleisiau un o'r ddau ymgeisydd sy'n dadlau dros newid gael eu hail-ddidoli.
Mae 'na fisoedd i fynd eto cyn i'r ras i arwain Llafur Cymru dynnu at derfyn. Gall eliffant fwrw llo'n gynt nac y gall Llafur Cymru ddewis arweinydd! Mae'n rhyfedd meddwl y bydd pob un o'r pleidiau eraill wedi cynnal etholiad arweinyddol yn yr adwy rhwng cyhoeddi ymddeoliad Carwyn Jones ac ethol ei olynydd.
Ac wrth i wleidyddiaeth Cymru symud fel rhewlif tuag at ffurfio Llywodraeth newydd mae pleidiau San Steffan yn edrych yn debycach i geir clowns bod dydd.
Hei ho. Mae 'na sbort o'n blaenau!