Ymddiheuro am anhrefn ar drenau i dde Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tren Great WesternFfynhonnell y llun, GWR

Mae'r cwmni trenau Great Western Railway (GWR) a Network Rail wedi ymddiheuro am amhariad i'w gwasanaethau i mewn ac allan o dde Cymru nos Iau.

Yn ôl teithiwraig a gafodd ei gadael heb gludiant adref o orsaf drenau Bryste, roedd golygfeydd o "chaos llwyr" wrth i bobl geisio dod o hyd i ffordd arall o gyrraedd adref.

Cafodd teithwyr wybod bod trên arall wedi achosi difrod i'r traciau ger Caerdydd.

Mae GWR yn annog y rhai sydd wedi cael eu heffeithio i gysylltu gyda nhw, a'u bod yn debygol o fod â hawl i dderbyn iawndal.

'Dim atebion'

Roedd Helen Arlene Davies a'i gŵr yn teithio o Lundain i Gaerdydd pan ddaeth y trên i stop ym Mryste.

Yn ôl Mrs Davies, buon nhw'n aros yn stond am chwarter awr tan i rywun roi gwybod i'r teithwyr bod trên arall wedi achosi difrod i'r traciau ger Caerdydd.

"Y wybodaeth gathon ni jyst cyn cyrraedd Bryste oedd bod y trên cwarter wedi chwech i Gaerdydd yn dal yn aros ym Mryste, a'r trên cwarter i saith," meddai.

Cafodd y teithwyr eu cynghori i ddod o hyd i ffordd arall o deithio adref.

Ffynhonnell y llun, Helen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r teithwyr ym Mryste wedi'r trafferthion ar y lein i gyfeiriad Caerdydd

Yn ogystal, fe gawson wybod na fyddai GWR yn gallu trefnu cludiant ar eu cyfer. Roedd hynny am nad oedd gyrwyr bysiau ar gael, am fod y tymor ysgol wedi ail-ddechrau.

Dywedodd Mrs Davies: "Roedd GWR heb os nac oni bai wedi gadael i bawb ffindo eu ffordd eu hunain adre. Do'dd dim atebion 'da nhw a do'dd dim ymateb oddi wrthyn nhw."

Yn ôl Mrs Davies, a ddefnyddiodd wasanaeth tacsi Uber i ddychwelyd adref, cododd pris eu taith o £120 yn y lle cyntaf i £300.

"Fuon ni'n ffodus i gwrdd â pobol oedd yn byw yn yr un cyffiniau â ni oedd yn gallu rhannu tacsi gyda ni."

'Pobol yn eu dagrau'

Yn ôl Mrs Davies, roedd prisiau gwestai'r ddinas hefyd wedi'n codi'n aruthrol a nifer o bobl yn yr orsaf ddim yn gwybod beth i'w wneud nesaf.

Wrth ddisgrifio'r olygfa nos Iau dywedodd Mrs Davies bod "pobol 'na yn eu dagrau yn gweud bod gwestai ym Mryste wedi mynd o £110 i £500. O'dd hi'n chaos llwyr yn yr orsaf a neb 'na i helpu.

"Doedd dim unrhyw gymorth o gwbwl wrth y GWR ond 'Byddwch yn cael eich ad-dalu mewn chwech wythnos'."

Dywedodd Mrs Davies bod teuluoedd â phlant ifanc, pobl anabl a theithwyr bregus eraill yn yr orsaf heb unrhyw ffordd o deithio adref.

Ymddiheuro

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Trenau Great Western: "Rydym yn ymddiheuro am amhariad i'n gwasanaethau i mewn ac allan o dde Cymru neithiwr.

"Roedd hyn yn sgil digwyddiad yn cynnwys un o drenau Arriva Cymru yn ardal Caerdydd, a olygodd nad oedd trenau'n gallu rhedeg tan ei fod wedi ei ddatrys.

"Er i'r gwasanaethau a gafodd eu heffeithio gwblhau eu teithiau, roedd cryn oedi i ein cwsmeriaid."

Mae'r cwmni'n annog teithwyr i gysylltu i hawlio iawndal.

Mae Network Rail hefyd wedi ymddiheuro am yr oedi, gan fanylu mai "problem ar y rhwydwaith" oedd ar fai.

Maen nhw hefyd wedi pwysleisio bod y broblem wedi'i datrys bellach a bod y gwasanaeth yn rhedeg yn ôl yr arfer.