Cwestiwn i Carwyn

  • Cyhoeddwyd

Dyma ni felly yn ôl yn y Bae ac mae'n saff fod 'na lawer ar feddwl Carwyn Jones wrth iddo gychwyn ar ei dymor olaf fel Prif Weinidog.

Heddiw fe fydd e'n wynebu cwestiynau gan ddau arweinydd newydd Paul Davies o'r Ceidwadwyr a Gareth Bennett o Ukip. Fe fydd gweld sut mae Carwyn yn delio â Gareth yn ddiddorol a dweud y lleiaf gan nad yw'r rhelyw o aelodau cynulliad yn celu eu dirmyg tuag at y dyn.

Yn y cyfamser, mae holl helbulon Brexit yn pentyrru ar ei ddesg, mae'r penderfyniad terfynol ynghylch yr M4 newydd ar y gorwel ac mae goblygiadau marwolaeth Carl Sergeant yn hofran fel cwmwl uwch ei ben.

Ond mae 'na broblem arall gan Carwyn, fel Aelod Cynulliad yn hytrach na fel Prif Weinidog.

Ers iddo gyhoeddi ei ymddeoliad, mae Carwyn wedi cadw allan o'r ras i ddewis ei olynydd. Fe wnaeth Rhodri Morgan yr un peth am resymau amlwg a dealladwy.

Yr unig beth y mae Carwyn wedi dweud ynghylch yr ornest oedd y byddai hi'n "anodd" i'r blaid pe na bai na fenyw ar y papur pleidleisio.

Fe ddywedodd e hynny yn ôl ym mis Gorffennaf. Dyma'i union eiriau.

"Dydw i ddim am ddatgan barn ynghylch pwy ddylai arwain Llafur Cymru nesaf a byddaf ddim yn gwneud hynny ond fe fyddai'n anodd iawn i ni fod yn y sefyllfa yna.

"Dyw hwn ddim yn rhywbeth yn gallaf reoli. Ni fyddaf yn enwebu unrhyw un, ond byddai pethau ddim yn edrych yn dda gan ein bod yn ymdrechu dros gydraddoldeb."

Erbyn hyn, rydym mewn sefyllfa lle mae pob Aelod Cynulliad Llafur, ac eithrio Carwyn, wedi cyhoeddi pwy maen nhw'n cefnogi i'w olynnu.

Mae dau ddyn eisoes wedi sicrhau'r enwebiadau angenrheidiol ond mae Eluned Morgan un yn brin o'r chwech Aelod Cynulliad sydd eu hangen.

Mae 'na fodd i Carwyn felly sicrhau bod 'na fenyw ar y papur trwy enwebu Eluned. A fydd e'n dewis gwneud hynny neu ydy'r addewid i beidio ymyrryd yn bwysicach iddo?