Cyngor Gwynedd yn 'slei' am ganiatáu tai gwyliau Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae pentrefwyr ym Mhen Llŷn yn cyhuddo Cyngor Gwynedd o fynd ati yn "slei" i ganiatáu 35 o dai gwyliau moethus ar hen safle gwesty Plas Pistyll.
Er nad oedd ganddyn nhw wrthwynebiad i'r datblygiad ar y dechrau, maen nhw'n flin ynglŷn â newidiadau i'r cynlluniau gwreiddiol.
Mae pentrefwyr Pistyll, sydd rhwng Nefyn a Llithfaen, yn dadlau na fuodd 'na ddigon o drafod ac nad ydy'r tai bellach yn gweddu i'r ardal.
Yn ôl y datblygwyr mae'r tai, sy'n costio hyd at £750,000 yr un, yn "gyfle unigryw i brynu eiddo mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol".
Mae'r cyngor yn mynnu er hynny bod nhw'n ymdrin â phob cais cynllunio mewn modd "cwbl agored a thryloyw".
Hyd at £750,000
Yn ôl gwefan y datblygwyr, Natural Retreats, fe fydd cymal diweddara'r cynlluniau yn cael ei gwblhau yn fuan, gyda rhagor o adeiladu i ddechrau yn y misoedd nesaf.
Maen nhw'n disgrifio'r tai fel "cyfle unigryw i brynu eiddo mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol", a hynny mewn lleoliad lle nad ydy datblygiadau o'r maint yma'n cael eu caniatáu yn aml.
Mae pris y tai yn amrywio o £360,000 i £750,000 a mwy, ac maen nhw'n dweud eu bod wedi ymrwymo i gefnogi'r economi leol a'r iaith Gymraeg.
Ond y newidiadau i'r cynlluniau gwreiddiol a'r hyn sydd rŵan yn cael ei adeiladu sy'n cythruddo trigolion lleol fel Eunice Hughes.
"Roedd yna amodau llym ar y cais cyntaf, ond rŵan mae'r rheiny wedi diflannu," meddai.
"Ar ddiwedd y dydd mae Cyngor Gwynedd i fod i warchod yr ardal a gwarchod yr iaith. Tydyn nhw ddim wedi gwneud hynny."
'I le fydd y pres yn mynd?'
Yn ôl Bethan Hughes, sydd hefyd yn byw yn y pentref, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn "slei".
Dywedodd bod y tai sy'n cael eu codi yn "anferthol" o'u cymharu â'r rhai yn y cynlluniau gwreiddiol, gan fynnu na wnaeth y cyngor ymgynghori yn iawn na thrafod y newidiadau yn lleol.
Mae Deio McGowan, sydd wedi byw ym Mhistyll ar hyd ei oes, yn gofyn "i le fydd y pres yn mynd? Wnaiff o ddim aros yn lleol".
Mae dau gynghorydd lleol yn flin na wnaeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd gael cais gan swyddogion i ail-edrych ar y datblygiad.
Yn ôl y Cynghorydd Gruffydd Williams o Nefyn, sydd ei hun yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, roedd y tai gwreiddiol wedi'u "cuddio" ac yn gydnaws â'r ardal.
Dydy hynny ddim yn wir am y rhai sy'n cael eu codi yno rŵan, meddai.
Tra'n cydnabod efallai i'w cwynion ddod yn rhy hwyr, mae Aled Jones, y cynghorydd sy'n cynrychioli Pistyll, yn gobeithio y bydd gwersi'n cael eu dysgu.
"Rydan ni yma i wasanaethu pobl Gwynedd. Nid gwasanaethu pobl Gwynedd ydan ni drwy ganiatáu rhywbeth fel hyn."
'Agored a thryloyw'
Mewn datganiad mae Cyngor Gwynedd yn mynnu iddyn nhw ymgynghori'n lleol ac i rybudd gael ei osod ger safle'r datblygiad.
Ychwanegodd llefarydd bod y cais wedi ei benderfynu drwy ddirprwyo gan "nad oedd yn golygu newid natur sylfaenol y caniatâd oedd eisoes yn ei le, a chan nad oedd y cais wedi ei gyfeirio i bwyllgor gan aelodau lleol".
Maen nhw yn "hyderus" eu bod yn ymdrin â phob cais yn "gwbl agored a thryloyw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2017