Adam i ennill, efallai

  • Cyhoeddwyd

Oce, gan taw'n llyfr i "Pen ar y bloc" yw llyfr yr wythnos ar Radio Cymru'r wythnos hon, ni fedraf osgoi rhoi fy mhen yn yr union fan am ymgyrch arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Rwy'n meddwl, ond dydw i ddim yn gwbwl siŵr, taw Adam Price fydd yn ennill yfory. Yn sicr fe yw'r ffefryn yn fy marn i.

Pam felly, pan gafodd Adam lansiad digon simsan i'w ymgyrch gyda Leanne Wood yn ymddangos fel ceffyl blaen ar y pryd?

Rhan o'r rheswm yw'r hyn sydd wedi digwydd yn yr hystingau. Mae rhyw ugain y cant o aelodau'r blaid wedi mynychu'r rheiny. Gallwch fod yn sicr y bydd y bobol hynny'n pleidleisio ac yn siarad â'u cyd-aelodau ynghylch perfformiadau'r ymgeiswyr.

Dyw'r hystingau ddim yn agored i'r wasg ond rwyf wedi siarad â rhai dwsinau o bobol sydd wedi mynychu o leiaf un ohonynt ac mae bron pob un o'r farn bod Leanne wedi tanberfformio. Clywais nifer yn barnu bod "Adam wedi ennill yr areithiau a Rhun y cwestiynau". Yn sicr mae 'na deimlad bod Leanne wedi colli tir yn yr wythnosau diwethaf, rhywbeth sy'n digwydd yn aml i ddeiliad swydd.

Yr ail reswm yw bod hwn yn etholiad sy'n defnyddio'r bleidlais amgen a does neb yr wyf i wedi siarad â nhw yn disgwyl i Adam ddod yn drydydd. Rhun neu Leanne sy'n debyg o orfod ildio'u cefnogwyr i eraill felly.

Os taw Rhun sy'n cwympo mas gallwn ddisgwyl i'r rhelyw o'i gefnogwyr, pobol sy'n deisyfu newid yn fwy na dim, fynd at Adam. O safbwynt cefnogwyr Leanne y cwestiwn sy'n codi yw hwn. A fyddai'r ffaith bod Adam ar y chwith yn ddigon i'w darbwyllo i'w gefnogi neu ydy eu chwerwder ynghylch rhai o'r pethau y mae Adam wedi eu dweud ynghylch Leanne yn debyg o'u gyrru i gofleidio Rhun?

Dyma'r ods felly, a chan nad ydwyf yn deall pethau fel "evens" a 2-1, rwy'n eu rhoi nhw fel canrannau.

Adam Price 50%

Rhun ap Iorwerth 30%

Leanne Wood 20%