Adran dau: Casnewydd 4-2 Caergrawnt
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Casnewydd i daro 'nol i ennill triphwynt gwerthfawr ar brynhawn hynod gyffrous yn Rodney Parade.
Gyda Chaergrawnt yn agos at waelod y tabl roedd disgwyl i Gasnewydd adeiladu ar eu dechreuad da i'r tymor, ond yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi pedwar munud.
Llwyddodd yr ymosodwr Reggie Lambe i grymanu'r bel i gefn y rhwyd o ymyl y cwrt cosbi, cyn iddo ychwanegu ail i Gaergrawnt chwarter awr yn ddiweddarach.
Fe hanerwyd mantais yr ymwelwyr cyn hanner amser yn dilyn cic o'r smotyn gan Mickey Demetriou.
Daeth y tîm cartref yn gyfartal cwta pum munud i mewn i'r ail hanner wrth i Padraig Amond ergydio o ganol y cwrt cosbi i gornel chwith y rhwyd.
Yn amlwg llawn hyder, dal i bwyso gwnaeth Casnewydd, gan lwyddo i fynd ar y blaen drwy beniad gan Jamille Matt.
Ychwanegodd Matt ei ail gol o'r gêm, a phedwerydd Casnewydd i sicrhau'r fuddugoliaeth gyda 63 munud ar y cloc.
Mae Casnewydd yn codi i'r ail safle yn Adran Dau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2018
- Cyhoeddwyd15 Medi 2018