Cynulliad: Trafod newid oed pleidleisio ac enw'r corff

  • Cyhoeddwyd
Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, y byddai'r newidiadau'n rhoi "llais cryfach i bobl ifanc"

Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod cynlluniau i ostwng yr oed pleidleisio i 16 oed ac ailenwi'r Cynulliad yr wythnos nesaf.

Mae disgwyl i aelodau gymeradwyo cynlluniau i greu newidiadau cyfansoddiadol i'r ffordd y mae'r Cynulliad yn gweithio.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, mai'r bwriad oedd i roi "llais cryfach i bobl ifanc yn nyfodol ein gwlad" cyn yr etholiad yn 2021.

Mae disgwyl i ACau gefnogi'r cynlluniau sylfaenol, ac fe fydd hynny'n caniatáu i'r Cynulliad baratoi deddfwriaeth newydd.

Bydd yn rhaid i 40 o aelodau - allan o 60 i gyd - basio'r cynnig terfynol er mwyn ei wneud yn ddeddf.

Does dim sicrwydd beth fydd enw newydd y Cynulliad o dan y ddeddfwriaeth newydd.

Daw'r cynigion yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Yr Athro Laura McAllister ym mis Rhagfyr y llynedd, ddywedodd hefyd bod angen 20 i 30 o ACau ychwanegol ar y Cynulliad.

Bydd trafodaeth ar hynny yn digwydd maes o law.