Manw i gynrychioli Cymru yn y Junior Eurovision

  • Cyhoeddwyd
ManwFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Manw nawr yn perfformio "Hi yw y Berta", can wreiddiol gan Yws Gwynedd, yn Belarws fis Tachwedd.

Manw, sy'n wreiddiol o Rosgadfan ger Caernarfon fydd yn cynrychioli Cymru yn y Junior Eurovision yn Belarus fis Tachwedd.

Llwyddodd Manw i ennill cyfres Chwilio am Seren ar S4C oedd yn cael ei ddarlledu'n fyw o Venue Cymru, Llandudno, gan ddod i'r brig yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Mewn cyfres o bedair rhaglen, roedd unigolion a grwpiau 9-14 oed yn wynebu panel o fentoriaid sef Connie Fisher, Stifyn Parri a Tara Bethan mewn clyweliadau cyhoeddus.

Yn dilyn y rhaglen nos Fawrth, dywedodd Manw y bydda hi'n "fraint" cael cynrychioli Cymru yn y Junior Eurovision.

Eleni yw'r tro cyntaf erioed i Gymru gystadlu fel cenedl unigol yn y Junior Eurovision Song Contest.

'Diolch i bawb'

Fe fydd Manw nawr yn perfformio "Hi yw y Berta", can wreiddiol gan Yws Gwynedd, yn Belarws fis Tachwedd.

Ychwanegodd Manw: ""Diolch i bawb am y gefnogaeth ac am fy helpu i. Mae pawb wedi bod mor gefnogol ar hyd y daith. Mae'r genod eraill wedi bod mor neis ac mor gefnogol - diolch i bawb!"

Tara Bethan oedd mentor Manw a dywedodd hi ei bod hi mor falch ohoni.

"Mae'r cyfoeth o dalent dyn ni wedi gweld heno yn profi pam fod Cymru yn cael ei galw yn Wlad y Gân," meddai.

Mi fydd y brif gystadleuaeth yn cael ei darlledu'n fyw o Minsk, Belarus, ar S4C, ar brynhawn Sul, 25 Tachwedd am 15:00.