Ar y dydd hwn: Ethol Megan Lloyd George yn AS

Megan Lloyd George yn 1929Ffynhonnell y llun, Getty Images/ Archif Hulton
Disgrifiad o’r llun,

Megan Lloyd George yn 1929

  • Cyhoeddwyd

Ar y dyddiad yma yn 1929, cafodd Megan Lloyd George ei hethol yn Aelod Seneddol - y ferch gyntaf o Gymru i wneud hynny.

Cynrychiolodd y blaid Ryddfrydol yn etholaeth Ynys Môn tan 1951.

Erbyn hynny, roedd poblogrwydd y Blaid Ryddfrydol yn dechrau colli ei blwc, a gwleidyddiaeth Megan yn dechrau gwyro oddi wrth safbwyntiau'r blaid.

Yn is-etholiad 1957, enillodd sedd dros y Blaid Lafur yng Nghaerfyrddin, a'i dal hyd ei marwolaeth yn 1966.

Megan yn 1910, gyda'i thad David Lloyd GeorgeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Megan yn 1910, gyda'i thad David Lloyd George

Roedd hi'n anochel mai i fyd gwleidyddiaeth yr ai Megan, a hithau'n ferch i David Lloyd George - yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog Prydain.

Mewn cyfweliad ar raglen Argraff gydag Ednyfed Hudson Davies yn 1965, pan holodd os y byddai'n dewis yr un gyrfa eto, neu'n gwneud rhywbeth gwahanol, meddai:

"Baswn i'n mynd nôl at wleidyddiaeth. Mae o yn fy ngwaed i - mae o'n rhyw feirws na fedra i ddim cael gwared arno fo. Mae arna i ofn y basai'n rhaid i mi gael fy ail-eni cyn y baswn i'n newid, dwi'n meddwl."

Megan Lloyd George yn ymgyrchu yn 1929Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Megan Lloyd George yn ymgyrchu yn 1929

Fodd bynnag, nid oedd bod yn wleidydd benywaidd yn hawdd, ac roedd nifer o straeon ganddi ynglŷn â'r rhwystrau a'r rhagfarnau yr oedd hi'n gorfod eu hwynebu yn ystod ei gyrfa.

Nid oedd dynion yn ei chymryd o ddifri', meddai, ac weithiau roedd hi'n cymryd dipyn i'w perswadio iddyn nhw ddechrau gwrando ar beth oedd ganddi hi i'w ddweud.

Fel y disgrifiodd, meddylfryd "'o dyma'r beth bach 'ma i ddod i siarad efo ni - fydd rhaid i ni ddiodda' tan y diwedd...'" oedd ar nifer o ddynion yn aml os oedd hi'n areithio o'u blaenau.

Megan Lloyd GeorgeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Megan Lloyd George yn ei chartref ger Criccieth yn 1964

Yn y cyfweliad ar gyfer rhaglen Argraff, mae hi'n cofio'n ôl at araith yn Eglwys Gadeiriol St Paul's yn Llundain, pan wnaeth 2,000 o weinidogion gwyno ymlaen llaw gan nad oedd hi'n 'addas' i ddynes siarad yn yr eglwys.

Er iddi gael y cyfle i areithio yn y diwedd, chafodd hi ddim yr un parch a'r statws â'r dynion a fu'n areithio, a bu'n rhaid iddi siarad o lwyfan bach yn hytrach na'r prif bulpud.

Ond, doedd hi ddim yn un a fyddai'n gadael i ddynion ei gwthio o gwmpas, ac roedd hi'n gyflym iawn i ymateb i unrhyw ddigywilyddra.

Pan y gwaeddodd ddyn arni o'r dyrfa mewn cyfarfod cyhoeddus rhyw dro: "Wouldn't you like to be a man?", ei hymateb di-flewyn-ar-dafod oedd "Wouldn't you?!"

Bu farw Megan Lloyd George o ganser y fron ym Mhwllheli ar 14 Mai, 1966. Roedd hi'n 64 mlwydd oed.

Heddiw, mae 15 o'r 32 Aelod Seneddol yng Nghymru yn fenywod.

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau hanesyddol o bwys (ac ambell un llai pwysig!) rhowch gynnig ar ein Cwis Cyflym Dyddiol.

Fe wnaeth yr erthygl yma ymddangos ar Cymru Fyw yn wreiddiol yn 2019.

Pynciau cysylltiedig